CBDC yn torri cysylltiad gyda chyn-lywydd wedi camau disgyblu

  • Cyhoeddwyd
Phil PritchardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mawrth datgelwyd bod Philip Pritchard yn un o dri aelod oedd wedi eu gwahardd wedi honiadau o ymddygiad annerbyniol (llun o 2011)

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi torri pob cysylltiad gyda chyn-lywydd yn dilyn camau disgyblu.

Roedd Philip Pritchard yn gyn-lywydd, aelod o'r cyngor ac yn gyfranddaliwr gyda'r gymdeithas, ond mae ei gysylltiad â'r gymdeithas nawr wedi dod i ben yn llwyr.

Dyw'r BBC ddim wedi gallu cael gafael ar Mr Pritchard ddydd Iau i gael ei ymateb i'r cyhoeddiad.

Ym mis Mawrth eleni fe ddatgelodd Newyddion S4C bod Philip Pritchard yn un o dri aelod o gyngor y gymdeithas bêl-droed oedd wedi cael eu gwahardd yn dilyn honiadau o ymddygiad annerbyniol.

Daeth canolwyr annibynnol - corff Sport Resolutions - i'r casgliad iddo wneud sylwadau misogynystaidd oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cinio cyn gêm.

Cyfaddef yn lle talu costau

Pan ofynnodd Newyddion S4C am ymateb Mr Pritchard i'r honiadau rheiny ym mis Mawrth eleni, fe wadodd wneud sylwadau o'r fath, ond dywedodd iddo bledio'n euog gan y byddai talu costau cyfreithiol ar gyfer y tribiwnlys annibynnol "wedi costio £12,000".

Dywedodd Mr Pritchard: "Mae yna awyrgylch hwyliog mewn digwyddiadau cyn gemau, gyda digonedd o banter."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phil Pritchard - yma'n gwneud cyfweliad yn 2011 - ei fod "yn cael hwyl a sbri pan gerddodd ferch ifanc i mewn i'r ystafell" cyn gêm

Ychwanegodd mai'r "peth diwethaf" roedd am ei wneud oedd achosi pryder a gofid i unrhyw un, gan ddweud ei fod yn "cael hwyl a sbri pan gerddodd y fenyw ifanc yma mewn i'r ystafell".

"Mae'n rhaid ei bod wedi camddehongli rhywbeth. Roedd tystion ar yr un bwrdd â fi oedd yn dweud nad oedd hyn wedi digwydd.

"Yr unig reswm i fi gyfaddef oedd y byddai wedi costio'n ddrud i fi fel arall."

Mewn datganiad ddydd Iau dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Daethpwyd â chamau disgyblu pellach gan y gymdeithas bêl-droed ym mis Mai 2023 o ganlyniad i sylwadau wnaethpwyd gan Mr Pritchard i'r BBC.

"Cafodd y mater hwn hefyd ei gyfeirio at banel annibynnol.

"Wedi ystyried yr holl ffeithiau, penderfynodd y panel bod diweddu cysylltiad Mr Pritchard gyda'r gymdeithas ar unwaith yn gosb addas."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenni Hermoso wedi dweud nad oedd hi wedi cydsynio i gusan Luis Rubiales

Mae dadlau am wahaniaethu wedi bod yn bwnc llosg yn y byd pêl-droed dros yr wythnosau diwethaf wedi i lywydd ffederasiwn pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales, gusanu'r chwaraewr benywaidd Jenni Hermoso ar ei gwefus wedi iddyn nhw ennill Cwpan y Byd.

Dywedodd Hermoso nad oedd hi wedi cydsynio i'r gusan.

Er i Mr Rubiales fynnu na ddylai ymddiswyddo, gan ddadlau i Hermoso gydsynio i'r gusan, mae nawr wedi ei wahardd gan FIFA.

Mae ffederasiwn pêl-droed Sbaen wedi cadarnhau bod ymchwiliad mewnol ar y gweill.

Yn y gorffennol, mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, wedi dweud bod "sicrhau cyfartaledd, amrywiaeth a sicrhau bod pêl-droed yng Nghymru yn gynhwysol yn flaenoriaeth".