'Gaeaf pryderus' i dwristiaeth yn dilyn haf gwlyb

  • Cyhoeddwyd
Storm Antoni yn taro PorthcawlFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu i ddwy storm daro Cymru yn ystod mis Awst

Mae busnesau twristiaeth yn wynebu "gaeaf pryderus" oherwydd yr haf gwlyb a llai o arian yn cael ei wario, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Dywedodd Nia Rhys Jones, cyd-gadeirydd Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, fod siopau, tafarndai a bwytai yn teimlo'r effaith.

"Mae wedi bod yn haf gwlyb iawn, sydd wedi effeithio ar ymwelwyr dydd i ogledd Cymru yn fwy na dim," meddai.

Daw ei sylwadau wedi i Surf Snowdonia yn Sir Conwy gyhoeddi y byddai'n cau ar unwaith.

Dywedodd Ms Rhys Jones wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast: "Mae gogledd Cymru yn dibynnu ar ymwelwyr sy'n aros yma a'r miliynau o ymwelwyr dydd o'r gogledd orllewin [Lloegr] a thu hwnt.

"Felly mae'n teimlo braidd yn fflat ar adegau ac heb yr un wefr.

"Mae pobl yn adrodd haf prysur ond dwi'n amau ​​pan ddaw'r dadansoddiad gwariant y bydd nifer yr ymwelwyr yn is na'r hyn rydyn ni wedi arfer ei weld yr adeg yma o'r flwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Nia Rhys Jones: "Mae'n teimlo braidd yn fflat ar adegau ac heb yr un wefr"

Ychwanegodd fod pobl hefyd yn gwario llai pan fyddant yn ymweld.

"Mae pobl yn gwylio eu pocedi," meddai.

"Mae ochr manwerthu'r diwydiant yn ei chael hi'n anodd.

"Nid yw wedi bod yn hawdd a dwi'n meddwl bod gaeaf pryderus o'n blaenau i lawer o fusnesau."

Dywedodd y gallai tafarndai a bwytai, yn ogystal â darparwyr llety hunanarlwyo, wynebu gorfod cau neu gwtogi eu horiau agor i oroesi dros y gaeaf, gan nad oedd llawer wedi gwneud digon o elw dros y tri mis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc Antur Eryri wedi cyhoeddi y bydd eu canolfan syrffio yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy yn cau yn syth.

"Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw wedi gwneud digon o arian yr haf hwn.

"Fe allech chi weld tafarndai a bwytai yn cwtogi eu horiau agor dros y gaeaf ac efallai yn y sector llety, fe fydd hunanarlwyo yn penderfynu gwneud yr un peth."

'Twristiaeth ydy'r prif gyflogwr'

Yn ôl un cynghorydd o Sir Conwy, mae penderfyniad Parc Antur Eryri i gau eu canolfan syrffio yn Nolgarrog yn ergyd i'r ardal.

"Yn sicr mi fydd yn ergyd go galed, yn enwedig gyda'r gaeaf o'n blaenau ni, pan mae'n anodd dod o hyd i waith - sydd yn debygol gyda'r mathau o sgiliau fydd yn cael eu colli yn yr atyniad yma," meddai'r Cynghorydd Goronwy Edwards sy'n cynrychioli ward Caerhun ar yr awdurdod.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Goronwy Edwards: "Mae gwaith yn brin - twristiaeth ydy'r prif gyflogwr yn yr ardal yma"

"Mae nhw wedi cael trafferthion, mae'n system weddol unigryw fel dwi'n ei ddallt, ac mae'r straen ar y peirianwaith yma yn golygu ei fod yn torri lawr, ac oherwydd hynny mae nhw wedi cael trafferthion i gadw'r lle i fynd, ac wedyn wrth gwrs mae hynny'n creu ansicrwydd gydag unrhyw un sy'n mynychu'r lle."

"Mae gwaith yn brin - twristiaeth ydy'r prif gyflogwr yn yr ardal yma"

'Gwerthiant anhygoel'

Ond er gwaethaf y tywydd gwlyb, dywedodd un gadwyn o siopau hufen iâ yng Nghymru eu bod wedi cael haf cadarnhaol.

Dywedodd cyfarwyddwr Hufen Iâ Fablas, Lauren Evans, ei bod yn gobeithio y byddai'r rhagolygon cynhesach ar gyfer mis Medi hefyd yn rhoi hwb iddyn nhw.

"Mae wedi bod ychydig yn wlyb ar gyfer hufen iâ, ond mae gennym ni ddiwrnodau braf a chynnes i ddod felly fe fyddwn ni'n gwneud y mwyaf ohono cyn i'r plant fynd yn ôl i'r ysgol," meddai.

"Rydyn ni wedi cael gwerthiant anhygoel ar ein coffi a'n cacennau.

"Felly mae'n rhaid i ni arallgyfeirio a chadw ein pen uwchben y dŵr a mynd trwy'r gaeaf cyn mynd yn ôl i fis Ebrill a dechrau eto."

Pynciau cysylltiedig