Rhybudd am gau tafarndai yn sgil heriau ariannol

  • Cyhoeddwyd
John Evans, perchennog y Black Boy Inn
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Evans yn poeni am effaith cau tafarndai yn ystod y gaeaf ar y gymuned leol

Wedi haf "siomedig", mae sawl tafarn yn y gogledd-orllewin yn ystyried cau yn rhannol neu'n gyfan gwbl yn ystod y gaeaf, yn ôl un perchennog.

Dywedodd John Evans, perchennog tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon, fod yr heriau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd gyda'r gwaethaf y mae wedi eu gweld mewn hanner canrif o weithio yn y diwydiant.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i ddenu ymwelwyr yma os am ddiogelu dyfodol busnesau lletygarwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol bod heriau tymor byr a thymor hir i'r sector twristiaeth, a'u bod yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant.

Dywedodd Mr Evans: "Dwi'n meddwl bod 'na storm berffaith yn dod, rhwng Brexit, Covid, codi trethi, biliau ynni a chyflogau uwch.

"A dwi'n clywed bod twristiaeth i lawr. 'Da ni'n ei weld o hefyd... mae lot llai o dwristiaid yma rŵan na sydd wedi bod ers blynyddoedd a ma' hynny yn effeithio arnom ni gyd mewn ffordd.

"Mae'r arian 'da ni'n ei gael drwy dwristiaeth yn yr haf, yn cadw'r busnesau a chwmnïau eraill yn y gymuned i fynd yn y gaeaf.

"Ond 'da chi'n clywed bod mwy o bobl yn mynd allan o Gymru na sy'n dod i mewn yn yr wythnosau diwethaf yma, ac mae hynny'n drist."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Evans ei fod yn ystyried cwtogi'r oriau y bydd tafarn y Black Boy ar agor yn ystod y gaeaf

Mae Mr Evans yn dweud ei fod o wedi trafod y sefyllfa gyda pherchnogion tafarndai a gwestai eraill yn y gogledd-orllewin, a'u bod wir yn ystyried peidio agor eu busnesau yn y flwyddyn newydd.

"Dwi'n 'nabod tri pherson oedd yn rhedeg gwestai yn yr ardal yma, ac maen nhw wedi pacio fewn ac wedi gadael," meddai.

"Dwi'n poeni, fel 'da chi'n mynd i ddechrau'r flwyddyn newydd - fydd 'na sawl lle yn cau, neu yn torri oriau nhw 'nôl, ac mae hynny'n drist i'r bobl sy'n byw yn yr ardal.

"Bydd llai o ddewis i'r bobl leol... ond mae'n rhatach weithiau i gau llefydd lawr yn y misoedd tawel 'na, na i gadw nhw'n 'gored.

"'Da ni'n colli pres bob blwyddyn yn nhri mis cynta'r flwyddyn, ac wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd - ond 'da ni'n gwybod bod yr haf yn dod â'r arian yna 'nôl, ond wrth gwrs dydi'r haf ddim wedi bod cystal eleni."

'Ddim eisiau gwthio pobl i ffwrdd'

Er nad ydi Mr Evans yn bwriadu cau tafarn y Black Boy yn gyfan gwbl yn y flwyddyn newydd, mae o'n dweud ei fod yn ystyried y gwahanol opsiynau, a'i bod hi'n bosib y bydd rhaid iddyn nhw dorri lawr ar yr oriau y byddan nhw'n agored.

Ychwanegodd bod yr argyfwng costau byw wir wedi taro busnesau lletygarwch yn galed oherwydd y biliau cynyddol, ond hefyd gan fod llai o bres gan bobl i wario ar wyliau ac yfed a bwyta allan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi datgan pryder yn ddiweddar fod gan Gymru "broffil cymharol fach dramor"

Mae'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys er mwyn ceisio gwerthu Cymru i bobl o weddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

"Mae'r llywodraeth wir angen meddwl am be' maen nhw am ei wneud... mae nifer o'r straeon sy'n mynd allan i ardaloedd eraill yn negyddol iawn am bob dim... ond 'da ni wir angen croesawu pobl i mewn.

"'Da ni eisiau eu pres nhw [ymwelwyr], 'da ni eisiau i bobl ddysgu'r iaith Gymraeg, 'da ni'm eisiau gwthio pobl i ffwrdd, ond tynnu pobl i mewn.

"Ma' gogledd Cymru yn dibynnu ar dwristiaeth, da ni'n gwybod hynny, ond ydi'r de yn sylweddoli faint 'da ni'n dibynnu arno fo?

"Y parcio yn Eryri, gwahanol drethi... mae o fel bo' nhw'n bwydo pethau fel hyn i ni yn araf bach ar y funud - ond os nad ydi pobl yn teimlo bod 'na groeso iddyn nhw yma, mi fydda nhw'n mynd lawr i Ddyfnaint neu i Gernyw.

"Os ewch chi dramor mae pawb yn gwybod lle mae Iwerddon, neu'r Alban, ond prin iawn bod rhywun yn gwybod lle mae Cymru, ac mae angen i hynny newid."

Disgrifiad o’r llun,

Emma McClarkin: "Gall y llywodraethau yn San Steffan a Chymru wneud llawer i gefnogi ein busnesau"

Yn ôl Emma McClarkin, prif weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru, mae wedi bod yn "gyfnod anodd iawn i'r diwydiant ar ôl y pandemig".

"Mae'r sefyllfa chwyddiant costau yn ei gwneud hi'n anodd iawn i'n tafarndai a'n bragwyr ddod yn ôl i broffidioldeb," meddai.

"Roeddem wedi bod yn gobeithio am haf poeth, hir i helpu hybu gwerthiant ond yn anffodus nid yw hyn wedi digwydd, a gyda phrisiau'n codi yn y DU mae llawer o deuluoedd wedi mynd dramor ar gyfer eu gwyliau.

"Fodd bynnag, rydym yn gobeithio am ŵyl y banc braf, fyddai'n hwb i fasnach.

"Gall y llywodraethau yn San Steffan a Chymru wneud llawer i gefnogi ein busnesau ac mae Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru wedi bod yn galw am ostwng treth cwrw a TAW yn ogystal â diwygio ardrethi busnes i helpu busnesau i ffynnu."

'Annog mwy o wariant drwy'r flwyddyn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn canolbwyntio ar ledaenu buddion twristiaeth ledled Cymru, gan annog mwy o wariant drwy'r flwyddyn.

"Bydd ein hymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru yn parhau i gadw Cymru ar flaen y meddwl, yn enwedig gyda'r diwydiant yn adrodd tuedd mewn archebion llawer diweddarach sy'n cyd-fynd â'r hinsawdd economaidd. Eleni, rydym yn gwahodd pobl i brofi Llwybrau Cymru.

"Mae effaith y dewisiadau economaidd a gymerir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith negyddol ar dwristiaeth Cymru.

"Mae hyn yn cynnwys prisiau ynni uchel, prinder llafur a'r argyfwng costau byw sy'n wynebu cymaint o deuluoedd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.

"Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddi i gefnogi pobl, teuluoedd, busnesau a chymunedau drwy'r cyfnod anodd hwn."