Cerbydau'n cael eu dal gan y llanw ar draethau Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd gan wylwyr y glannau i bobl beidio â pharcio eu cerbydau ar draethau yng Ngwynedd wedi i ddau gael eu dal gan y llanw dros nos.
Yn ôl swyddogion roedd fan wedi mynd yn sownd yn y tywod ar draeth Morfa Bychan, Porthmadog, ac roedd cerbyd arall yn Abersoch wedi diflannu'n llwyr yn ystod cyfnod o lanw uchel.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau Caergybi fod ceir ar y traeth yn broblem barhaus ym Morfa Bychan.
"Gall pobl yrru'n syth i'r traeth yno," meddai.
"Mae'n ardal boblogaidd gyda cheir yn mynd i lawr yno, yn enwedig gyda gyrwyr iau yn drifftio o gwmpas, sy'n broblem arall.
"Naw gwaith allan o ddeg dydy o ddim yn broblem a dydyn nhw ddim yn mynd yn sownd, ond mae'n gallu digwydd."
Dywedodd y llefarydd fod y digwyddiad yn Abersoch yn fwy anarferol.
"Mae'r Land Rover ar Draeth Machroes. Daeth yr alwad i mewn yn oriau mân y bore 'ma, felly mae'n rhaid ei fod wedi mynd yn sownd dros nos.
"Mae tua metr o dan y penllanw. Bydd yn dod yn broblem mordwyo a bydd Abersoch yn rhoi rhybudd mordwyo lleol allan.
"Fydd y llanw isel ddim tan 17:20.
"Hyd yn hyn does dim perchennog wedi dod ymlaen. Mae'n debyg y bydd rhaid mynd at y cyngor i'w adennill oni bai bod y perchnogion yn dod ymlaen."
Mewn datganiad pellach brynhawn Sul fe ddywedodd Gwylwyr y Glannau Caergybi eu bod "yn aros am dractor i'w dynnu oddi ar y traeth rŵan bod y llanw wedi mynd allan".
Fe gyfeiriodd y llefarydd at achos arall "ychydig flynyddoedd yn ôl" pan roedd "Mercedes o dan ddŵr ym Mae Treaddur ac yn y diwedd roedd yn rhaid i ddeifwyr fynd ato".
Dyw achosion o'r fath ddim yn digwydd "gymaint erbyn hyn ond mae'n gyffredin ym Morfa Bychan".