'Cydweithio swyddogol yn hwb i Gymru a Chernyw'
- Cyhoeddwyd
"Mae cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor Cernyw ar lefel swyddogol yn bwysig ac yn newyddion da i ni o safbwynt iaith a diwylliant a'r economi."
Dyna mae Jenefer Lowe, sy'n aelod o Orsedd Beirdd Cernyw ac yn athrawes Gernyweg, yn ei ddweud, wrth ymateb i gytundeb cydweithio newydd rhwng Cymru a Chernyw.
Bydd y cytundeb newydd yn sicrhau mwy o gydweithio ar bynciau fel tai cynaliadwy, cyflawni sero net, economïau gwledig sy'n ffynnu, a dathlu diwylliant ac iaith.
Wrth lofnodi'r cynllun gweithredu pum mlynedd dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei fod yn "edrych ymlaen at gydweithio'n agosach, adeiladu ar ein perthynas gref, rhannu arferion gorau ac ystyried meysydd eraill y gallwn gydweithio arnyn nhw yn y dyfodol".
Y disgwyl yw y bydd pob gweithgor yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn, ac mae disgwyl i sesiynau cyffredinol ar lwyddiant y trefniadau gael eu cynnal hefyd.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol er mwyn lleihau effaith ariannol a charbon.
Er nad oes buddsoddiad ariannol yn rhan o'r cytundeb, mae Jenefer Lowe yn teimlo fod rhannu profiad a dysgu gwersi yn werthfawr.
"Ry'n ni wedi cael help mawr gan Gymru yn y gorffennol. Mae cyfle nawr i gyd-weithio i ddatrys problemau," meddai.
"O bosib hefyd bydd hyn yn ein gwneud ni 'chydig yn gryfach i drafod pethe fel hyn gyda llywodraeth Llundain."
'Teimlo'n gryf iawn dros hyrwyddo'r iaith'
Mae'n ddyddiau cynnar i'r cytundeb cydweithio.
Ar hyn o bryd mae'r gweithgorau yn cael eu sefydlu i gadarnhau blaenoriaethau allweddol ar gyfer rhannu dysgu ac arferion gorau a fydd o fudd i Gymru a Chernyw.
Roedd gan Lywodraeth Cymru a Chernyw gysylltiadau swyddogol eisoes ym maes datblygu ieithoedd lleiafrifol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio nawr y gall y cytundeb newydd ddarparu fframwaith ychwanegol ar gyfer y cydweithio hwnnw.
Yn Kowsva, siop cymdeithas yr iaith Gernyweg ger Redruth, mae criw o wirfoddolwyr yn ceisio hyrwyddo'r iaith gydag adnoddau, llyfrau a cherddoriaeth a gwybodaeth am wersi Cernyweg a grwpiau sgwrsio.
"Ry'n ni yn mwynhau hyrwyddo'r Gernyweg ac ry'n ni yn teimlo ein bod ni yn rhoi rhywbeth nôl i'r gymuned," meddai un o'r rhai sy'n helpu yno, Yvonne Francis.
"Rwy'n teimlo'n gryf iawn dros hyrwyddo'r iaith er nad ydw i yn siarad Cernyweg yn rhugl fy hun. Rwy'n dysgu."
Wrth ymateb i'r cytundeb newydd rhwng Cymru a Chernyw mae Ms Francis yn dweud fod profiad Cymru'n bwysig.
"Byddai hyrwyddo'r iaith mewn ysgolion yn helpu y Gernyweg ac efallai ei gynnwys ar y cwricwlwm. Byddai mwy o gyfleon i'w siarad yn gymdeithasol mewn ffordd anffurfiol yn help," meddai.
'Ffordd hir i fynd'
Mae'r Gernyweg ar gynnydd.
Mewn trefi a phentrefi mae mwy o arwyddion ffordd dwyieithog wedi bod yn ymddangos gan ei bod yn ofynnol i arwyddion newydd Saesneg hefyd gynnwys cyfieithiad yn y Gernyweg.
Cynyddu hefyd mae nifer y siaradwyr. Yn ôl cyfrifiad 2021 roedd 563 o bobl yn siarad Cernyweg.
Mae yna amcangyfrif bod tua 3,000 yn defnyddio'r iaith yn gyson a 500 o bobl yn rhugl.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud fod ffordd bell i fynd eto.
Yn ôl Jenefer Lowe: "Mae angen mwy o help yn enwedig gan lywodraeth Llundain. Roedd y llywodraeth yn fanna arfer rhoi arian i ni i gefnogi'r iaith ond mae hynny wedi dod i ben.
"Ond mae llawer o bethe'n mynd 'mlaen ac yn gweithio gyda yr iaith. Mae pethe wedi datblygu yn gyflym iawn ac mae hynny'n galonogol, ond mae ffordd hir i fynd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2023