Sir Gaerwrangon yn trechu Morgannwg yn y Bencampwriaeth

  • Cyhoeddwyd
Jamie McIlroyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymrodd Jamie McIlroy bum wiced i Forgannwg yn ail fatiad Sir Gaerwrangon, ond colli oedd hanes y Cymry yn y pendraw

Mae Morgannwg wedi cael eu trechu oddi cartref yng Nghaerwrangon ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Ar ôl i Forgannwg benderfynu mai'r tîm cartref fyddai'n batio gyntaf, llwyddodd Sir Gaerwrangon i gyrraedd cyfanswm parchus o 284, gyda'r capten Brett D'Oliveira yn serennu gyda sgôr o 74 heb fod allan.

Ond ymateb digon llipa oedd gan Forgannwg, gan fod allan am 170, gyda neb yn llwyddo i sgorio dros 40 o rediadau.

Er hynny, daeth cyfle i Forgannwg wedi iddyn nhw lwyddo i fowlio Sir Gaerwrangon allan am 145 yn eu hail fatiad, gyda Jamie McIlroy yn cymryd pum wiced.

260 oedd y targed i Forgannwg am fuddugoliaeth felly, ac er gwaethaf ymdrechion Billy Root gyda sgôr o 84 heb fod allan, roedd y Cymry 81 yn brin, wrth gael eu bowlio allan am 179 a rhoi'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Pynciau cysylltiedig