Athro gyrru o Reading yn mynd â phobl i Geredigion am brawf
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr gyrru o Reading yn dweud ei fod wedi gorfod mynd â'i ddisgyblion ar daith 400 milltir er mwyn iddyn nhw allu sefyll prawf yng Nghymru.
Mae Graham Beisly wedi bod yn mynd â rhai o'i fyfyrwyr i Gei Newydd, Ceredigion, ar ôl i rai fethu hyd yn oed sicrhau lle ar restr aros.
Dywedodd un hyfforddwr gyrru o Gaerffili fod amseroedd aros yr un mor ddrwg yng Nghymru, ac mai rhan o'r broblem yw myfyrwyr sy'n dod dros y ffin i sefyll eu prawf.
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eu bod yn cymryd camau i leihau amseroedd aros am brofion.
"Dw i wedi bod yn gwneud y swydd hon ers 39 mlynedd a dyw hi erioed wedi bod mor ddrwg â hyn... mae'n rhyfeddol, mae'n anymarferol," meddai Mr Beisly.
"Dw i wedi cael rhai myfyrwyr sydd heb allu cael prawf, na hyd yn oed mynd ar y rhestr aros."
Dywedodd Mr Beisly, 65, fod tua phump o'i fyfyrwyr wedi gwneud y daith i Geredigion er mwyn sefyll eu prawf.
Amseroedd aros profion gyrru
Ym mis Mawrth cyhoeddodd y DVSA gynlluniau mewn ymgais i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau mawr o brofion gyrru.
Mae'r mesurau hyn yn cynnwys cynyddu'r amser y mae'n rhaid i ddysgwyr aros i aildrefnu prawf ar ôl methu, o 10 i 28 diwrnod.
Yn ôl ffigurau gafodd eu rhyddhau gan yr AA yn gynharach eleni, yr amser aros cyfartalog rhwng archebu prawf gyrru a sefyll y prawf yw 24 wythnos ledled y DU.
Cyn y pandemig Covid dim ond chwe wythnos oedd y ffigwr hwn.
Dywedodd Mr Beisly ei fod yn credu bod y system bresennol yn achosi i ddysgwyr sefyll profion cyn eu bod yn barod, oherwydd eu bod yn wynebu misoedd o aros os ydyn nhw'n aildrefnu.
"Mae hynny wedyn wedi cymryd y lle sydd ar gael, a ddylai fod ar gael, i rywun sydd yn barod ar gyfer prawf," meddai.
"Mae'n gwneud y system gyfan yn waeth."
Dywedodd ei fod yn credu mai rhan o'r broblem yw bod cwmnïau'n prynu slotiau prawf mewn swmp, cyn gwerthu'r slotiau hynny ymlaen am "elw anferthol".
"Roedd yn arfer bod y byddai un person yn prynu un prawf, a dyna ni, yna maen nhw wedi caniatáu i gwmnïau eu prynu mewn swmp."
'Mae wedi mynd yn wallgof'
Dywedodd Louise Dale, sy'n hyfforddwr gyrru o Gaerffili, fod myfyrwyr sy'n gobeithio archebu prawf yn aros tan y flwyddyn newydd nes bod slotiau ar gael.
"Roedd yr amseroedd aros tua chwech i wyth wythnos cyn Covid ac yna fe setlodd i lawr ychydig bach," meddai.
"Yna yn sydyn, mae'n debyg tua chwe mis yn ôl, mae wedi mynd yn wallgof eto."
Dywedodd Ms Dale, sy'n gweithio yng Nghaerdydd, er ei bod yn deall bod y mater yn gyffredinol, mai rhan o'r broblem yng Nghymru yw myfyrwyr yn dod o du allan i Gymru i sefyll eu prawf.
"Mae'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i ni bobl leol nawr gael profion," meddai.
"Rwy'n teimlo bod llawer o brofion bron yn cael eu gwastraffu oherwydd nad yw pobl yn paratoi."
Dywedodd prif weithredwr y DVSA, Loveday Ryder: "Rydym yn cymryd pob cam y gallwn i leihau amseroedd aros profion gyrru, gan gynnwys recriwtio bron i 500 o arholwyr gyrru newydd.
"Mae'r DVSA wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ailwerthu profion gyrru am elw, ac nid ydym yn goddef unrhyw un sy'n ecsbloetio dysgwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021