Dysgwyr yn gorfod teithio am oriau am brofion gyrru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aerona Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

I Aerona Rowlands, mae gorfod teithio i ardal ddieithr ar gyfer y prawf yn ychwanegu at y straen

Mae rhai dysgwyr gyrru yng Nghymru yn gorfod disgwyl hyd at 10 mis a theithio cannoedd o filltiroedd i gael prawf.

Yn ôl un hyfforddwr gyrru o'r gogledd-orllewin mae'r sefyllfa yn "argyfwng" ac yn "hollol annerbyniol".

Mae'n dweud bod yn rhaid i ddysgwyr o Bwllheli orfod gwneud eu prawf gyrru mewn llefydd fel Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin.

Mae cannoedd o filoedd o bobl ledled y DU yn aros hyd at chwe mis a mwy i wneud eu prawf oherwydd yr oedi yn dilyn Covid a phrinder arholwyr.

Mae undeb y PCS, sy'n cynrychioli arolygwyr prawf gyrru, yn galw am greu amodau gwaith gwell i arolygwyr i ddenu mwy i'r maes.

Ond yn ôl yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), sy'n gyfrifol am y system brofion, maen nhw wedi ceisio recriwtio 300 o arholwyr ychwanegol drwy Brydain ac yn cynnig profion ychwanegol ar benwythnosau.

Maen nhw hefyd wedi galw ar arholwyr sydd wedi ymddeol i ddychwelyd er mwyn mynd i'r afael â'r oedi yn sgil Covid.

'Ddim yn nabod y lle o gwbl'

Mae Aerona Rowlands, 17 oed o Forfa Nefyn, wedi bod yn dysgu dreifio ers pedwar mis ond does dim prawf ar gael ym Mhwllheli am fisoedd.

"O'n i ddim yn gallu ffeindio test ym Mhwllheli am tua 10 mis so dwi wedi gorfod bwcio test yn Aberystwyth achos amser a ballu a doedd 'na ddim lle ym Mhwllheli o gwbl. Ma' test fi tua diwedd mis Chwefror," meddai.

"Dwi ddim yn 'nabod y lle o gwbl so fydd o'n fwy anodd na gorfod dysgu a gwneud y test ym Mhwllheli.

"Mae Mam wedi gorfod bwcio tri diwrnod off gwaith i fynd â fi yna i 'nabod y lle a chymryd y test yno. Os fasa 'na test ym Mhwllheli fasa fi'n avoidio'r broblem yna i gyd.

"Mae o lot mwy o hassle i fi rŵan, dwi'n teimlo lot mwy o pressure. Fase fo lot haws i fi a 'swn i'n teimlo lot fwy cyfforddus yn dysgu a chael test ym Mhwllheli ond does 'na ddim rhai oherwydd Covid."

Steven Jones o Ysgol Yrru Dragon Drive ym Mhwllheli ydy hyfforddwr Aerona, ac mae'n dweud bod yr holl oedi a diffyg profion lleol yn broblem enfawr.

"Dwi 'di bod yn dysgu dreifio ers 20 mlynedd a dwi 'rioed 'di gweld hi fel hyn. Mae'n argyfwng," meddai.

Dywedodd fod rhai o'i gwsmeriaid yn cael eu gorfodi i fynd yn bell i wneud prawf - a hyd yn oed dros y ffin i Loegr.

"Ma' gen i ddau hogyn rŵan, un yn mynd i Aberteifi a'r llall yn mynd i Gaerfyrddin yn y pythefnos nesa'.

"Mae'n cymryd tair awr i un ac mae'r llall pedair awr jyst iawn i ffwrdd."

Yn ôl Steven diffyg arholwyr ydy'r broblem: "Dydy o ddim yn rhywbeth sy'n isolated - mae o'n rhywbeth sy'n digwydd bob wythnos neu bob yn ail wythnos."

llun stoc o brawf gyrru
Getty Images
Nifer y profion gyrru

yng Nghymru fesul blwyddyn

  • 2018/19: 70,53850.89% wedi pasio

  • 2019/20: 61,31851.72%

  • 2020/21: 18,75057.20%

  • 2021/22*: 30,49256.89% (Ebrill-Medi 2021*)

Ffynhonnell: DVSA

Mae Ela Evans o Fethesda, sy'n 17 oed, hefyd yn disgwyl am ei phrawf gyrru ac wedi gorfod bwcio un dros y ffin yn Lloegr yng Nghroesoswallt ym mis Mai.

Mae'n siwrne o 60 milltir, sydd awr a 40 munud o Fethesda.

"Dwi'n dysgu gyrru ers mis Medi a nes i benderfynu bwcio test bythefnos yn ôl," meddai.

"O'n i'n mynd drwy'r dyddiadau i gyd ar y wefan i weld os oedd yna le yn lleol ym Mangor, Bala a Phwllheli - ond doedd yna ddim byd ar gael am fisoedd.

"Doedd yna ddim slots o gwbl ym Mangor tan mis Rhagfyr! Doedd yna ddim slots ym Mhwllheli na Bala chwaith.

"Rŵan dwi 'di bwcio prawf yng Nghroesoswallt er mwyn i mi allu cael booking i mewn fel bo' fi'n gallu ca'l neges destun i gael gw'bod pryd mae yna cancellations ar gael."

Disgrifiad o’r llun,

Doedd Ela Evans methu cael prawf yn ei chanolfan agosaf tan fis Rhagfyr

Dywedodd ei bod yn poeni am y prawf yng Nghroesoswallt: "Mae'r lle mor ddiarth i mi.

"Dwi'n practisio mewn ardaloedd lleol rŵan a lonydd dwi'n eu hadnabod ym Mangor a Chaernarfon.

"Mi fydd yn rhaid i mi fynd yna tair i bedair o weithia' yn y misoedd nesa' i ymarfer ar y lonydd rhag ofn bo' fi'n gorfod 'neud y prawf yna.

"Dwi yn gobeithio y bydd cancellation yn dod i fyny yn y cyfamser."

Problem yng Nghymru a thu hwnt

Yr un ydy'r hanes yn Abertawe lle mae dysgwyr o dan ofal Iwan Williams yn gorfod aros chwe mis am brawf.

"'Dyn ni ddim yn 'neud e'n aml achos dyw hi ddim yn sefyllfa ddelfrydol iawn i unrhyw un deithio cwpl o oriau wedyn gorfod gyrru car ar gyfer y prawf gyrru," meddai.

"Mae'n achosi stress, yn enwedig gan eu bod o dan bwysau i basio a'u bod wedi disgwyl yn hir am eu hail brawf ar ôl methu'r tro cyntaf.

"Mae'n cael effaith ar swyddi - dyw pobl methu gadael eu swyddi neu ddechrau swydd newydd a rhai methu cael cyfweliad am swydd achos bo' nhw ddim yn gallu gyrru."

Ffynhonnell y llun, DVSA
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl gwefan y DVSA, prin iawn yw argaeledd profion ar hyn o bryd

Undeb y PCS sydd yn gyfrifol am gynrychioli arholwyr profion gyrru, ac yn ôl yr undeb mae 'na lawer yn gadael y maes oherwydd y pwysau sydd arnyn nhw.

Dywedodd llefarydd, Paul Martin: "Pe bydden ni'n gallu dod i sefyllfa lle byddai'r DVSA yn gallu cynnig mwy o sicrwydd gwaith i arholwyr a phe byddai'r cyflog yn cymharu'n well 'efo adrannau eraill o'r diwydiant dreifio - lle mae pobl yn mynd - yna dwi'n meddwl y byddai hynny yn cael effaith bositif yn gyffredinol er mwyn i fwy o bobl allu cymryd eu prawf gyrru."

Roedd y DVSA, y corff sy'n gyfrifol am y system profion gyrru, wedi rhoi targed i geisio recriwtio 300 o arholwyr drwy Brydain.

Yn ôl eu llefarydd, maen nhw wedi recriwtio 126 o arholwyr newydd hyd yma, gyda 83 arall yn cael hyfforddiant.

Pynciau cysylltiedig