Diwrnod cyntaf cyfres o streiciau gan arholwyr gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwrnod cyntaf cyfres o streiciau gan arholwyr profion gyrru - maen nhw'n gweithredu yn sgil anghydfod ynglŷn â'u cyflogau, amodau gwaith, pensiynau a thelerau diswyddo.
Fe fydd aelodau undeb y gweithwyr cyhoeddus a masnachol, y PCS, ar streic tan ddydd Mawrth 10 Ionawr.
Mae'r gweithredu diwydiannol yn effeithio ar 17 o ganolfannau profi yng Nghymru, dolen allanol.
Bydd yn amharu ar brofion gyrru car, beic modur, lori, bws, bws mini, tractor a cherbydau arbenigol ond ni fydd yn effeithio ar brofion theori.
Mae modd i bobl newid dyddiad eu prawf ond mae angen rhoi tri diwrnod gwaith o rybudd i osgoi gorfod talu eto.
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast dywedodd Rhydian Hughes, hyfforddwr gyrru o Bentrefoelas, Sir Conwy, ei fod yn cydymdeimlo gyda'r arholwyr dysgu oherwydd "ma' petha'n galed arnon ni i gyd".
Ond fe ychwanegodd bod rhan ohono "braidd yn teimlo ydi hwn yn amser cywir i ddechra streicio", gan fod pethau wedi dechrau dychwelyd i'r drefn arferol wedi cyfnod o drafferthion trefnu profion gyrru yn sgil y pandemig.
"Ti'n teimlo ma' petha'n dod yn ôl i ryw fath o drefn a wedyn ma' hyn yn digwydd a ma' hwnna'n mynd i roi eto knock-on effect i fy nisgyblion, ac yn enwedig i bobol sydd isio dechra.
"'Dwi 'di gorfod dweud wrthan nhw i ddisgwyl oherwydd 'dwi'n dal yn trio sortio'r criw ddaru gorfod disgwyl adeg Covid ac yn y blaen."
Yr unig gyngor sydd ganddo i'r darpar yrwyr, meddai, yw "disgwyl [gyda] 'mynedd a gras, fel bysa nain yn dweud".
"Yn anffodus, mae'r petha' ma'n digwydd," ychwanegodd, gan gydymdeimlo â sefyllfa person ifanc sydd "bron â marw isio pasio dy brawf gyrru a bod yn fwy annibynnol, yn enwedig lot o fy nisgyblion [sy'n] meddwl mynd i'r brifysgol flwyddyn nesaf".
Ar lefel bersonol, dywedodd Mr Hughes fod y posibilrwydd o golli cwsmeriaid yn bryder iddo, os yw rhai pobl yn methu, neu'n anfodlon, talu am wersi cyson yn ystod yr argyfwng costau byw gan ragweld oedi cyn gallu trefnu prawf gyrru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2022