Wilko: Cau chwe siop a cholli 186 o swyddi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
WilkoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 186 o swyddi'n cael eu colli yng Nghymru, a rhybudd y gallai mwy o siopau gau yn y dyfodol

Mae gweinyddwyr cwmni Wilko wedi cadarnhau y bydd chwech o'i siopau yng Nghymru yn cau, ynghyd â chanolfan dosbarthu ym Magwyr ger Casnewydd.

Mae disgwyl y bydd 186 o swyddi yn cael eu colli - 107 yn y siopau a 79 yn y ganolfan ddosbarthu.

Bydd siopau Bae Caerdydd, Llandudno a Phort Talbot yn cau ar 12 Medi, a siopau Treforys, Heol y Frenhines Caerdydd a'r Rhyl ar 14 Medi.

Dywedodd Edward Williams, o'r gweinyddwyr PwC: "Rydym yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth aelodau o'r tîm yn ystod y cyfnod anodd yma ac rydym wedi'n hymroi i wneud popeth gallwn ni i helpu'r staff sydd wedi'u heffeithio."

Ychwanegodd bod trafodaethau'n parhau gyda rhai sydd â diddordeb mewn prynu rhan o'r busnes, ond rhybuddiodd ei fod yn bosib y bydd yn rhaid cau mwy o siopau yn y dyfodol.

'Lot o ddagrau'

Dywedodd Paul McGuire, cyn-weithiwr Wilko a threfnydd rhanbarthol undeb y GMB yn y de bod y broses yn un anodd i'r staff.

"Fe fues i yn ymweld 'da rhai o'r siopau heddi. Mae 'na lot o ddagrau ac ansicrwydd mawr," meddai wrth BBC Cymru.

Eglurodd nad yw pob aelod o staff yn wynebu colli eu swyddi yn syth ond mae'n rhagweld y bydd rhagor o siopau yn cau:

"Fe ddaw 'na bwynt pan fydd y gweinyddwyr yn gorfod dweud digon yw digon. Rwy'n credu ein bod ni yn agosau at ddiwedd y broses.

"Dyw'r gweinyddwyr ddim yn mynd i gadw y siopau ar agor pan maen nhw just yn colli arian."

Rhybuddiodd Mr McGuire nad yw cytundeb i werthu rhai o adeiladau Wilko i B&M yn gwarantu unrhyw swyddi.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i staff Wilko golli eu swyddi yn y siopau hynny pan fydd eu lleoliadau yn cael eu datgelu

Mae gan Wilko 29 o siopau yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig