Heddlu'r Met: Dau o Gymru'n euog o anfon negeseuon hiliol

  • Cyhoeddwyd
New Scotland Yard.Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae dau ddyn o Gymru ymhlith pum cyn-swyddog gyda Heddlu'r Met sydd wedi pledio'n euog mewn cysylltiad â negeseuon WhatsApp hiliol, gan gynnwys rhai am Dduges Sussex.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster brynhawn Iau, fe blediodd Peter Booth, sy'n 66 oed ac o Landeilo, Sir Gâr yn euog i bedwar cyhuddiad o anfon negeseuon hiliol trwy ddull cyfathrebu cyhoeddus.

Cyfaddefodd Trevor Lewton, sy'n 65 oed ac o Abertawe, ei fod yntau wedi anfon un neges hiliol yn yr un modd.

Mae'r ddau, fel y tri diffynnydd arall sydd o Loegr, wedi ymddeol o'r llu - Booth yn Ebrill 2001 a Lewton yn Awst 2009.

Roedd yr achos yn ymwneud â negeseuon a gafodd eu rhannu rhwng Medi 2020 a 2022.

Ymchwiliad wedi rhaglen Newsnight

Fe wnaeth adran safonau proffesiynol y llu gynnal ymchwiliad mewn ymateb i adroddiad ar raglen Newsnight y BBC fis Hydref y llynedd.

Cafodd y pump eu cyhuddo dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Mae'r Met wedi pwysleisio nad oedd yr un ohonyn nhw yn gweithio i'r llu pan wnaethon nhw rannu'r negeseuon o fewn grŵp WhatsApp.

Ychwanegodd y Met bod y diffynyddion wedi gwasanaethau mewn sawl rhan o'r llu yn ystod eu gyrfaoedd, a'u bod oll wedi treulio cyfnodau o fewn uned sy'n diogelu Palas Westminster a Stryd Downing ynghyd ag adeiladau llysgenhadol.

Roedd negeseuon eraill o fewn y grŵp yn crybwyll Tywysog a Thywysoges Cymru, Y Frenhines Elizabeth II a'r Tywysog Philip, a gwleidyddion yn San Steffan fel y Prif Weinidog Rishi Sunak, y cyn-Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid.

Cafodd y pump eu rhyddhau ar fechnïaeth nes y byddan nhw'n cael eu dedfrydu ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.