Dros 100 o bobl wedi'u hachub o draeth Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Traeth y RhylFfynhonnell y llun, Ian S | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylwyr y glannau wedi achub tua 120 o bobl a gafodd eu dal gan y llanw o draeth Y Rhyl

Mae gwylwyr y glannau yn dweud bod tua 120 o bobl wedi cael eu hachub ar ôl iddynt gael eu dal gan y llanw ar draeth Y Rhyl ddydd Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau achub eu galw am 16:00 gyda bad achub yr RNLI a thimoedd gwylwyr y glannau Y Rhyl a'r Fflint yn rhan o'r ymgyrch achub.

Defnyddiwyd y bad achub i gludo pobl yn ôl i'r llan, tra cafodd eraill eu casglu gan Land Rover yr RNLI.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau Caergybi fod rhai unigolion wedi cyrraedd yn ôl i'r lan ar eu pen eu hunain.

Daeth yr ymgyrch achub i ben yn fuan wedi 17:00 a ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Martin Jones o'r RNLI: "Rydym yn falch fo gwirfoddolwyr yr orsaf wedi medru cynorthwyo cymaint o bobl heb unrhyw anafiadau difrifol i'r rhai cafodd eu hachub.

"Rydym o hyd yn dweud bod pobl yn rhydd i fwynhau ein traethau godidog ond mae'n rhaid bod yn ofalus gyda'r llanw. Edrychwch yn ôl bob amser i weld a ydych mewn perygl o gael eich dal gan y llanw."

Pynciau cysylltiedig