Un yn yr ysbyty wedi tân ar gwch ym Marina Conwy

  • Cyhoeddwyd
Cwch ar danFfynhonnell y llun, Petersrockypics
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y tân ar gwch ym Marina Conwy

Mae menyw wedi cael ei chludo i'r ysbyty, a'r gred yw bod ci wedi marw, yn dilyn tân ar gwch, yn ôl Gwylwyr y Glannau Conwy.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwylwyr y Glannau eu galw i Farina Conwy am tua 18:00 ddydd Sadwrn, ynghyd â'r heddlu, parafeddygon a thimoedd badau achub.

Gwnaeth y tân ledu i ail gwch cyn iddo ddod o dan reolaeth. Daeth y digwyddiad i ben yn fuan cyn 21:00

Fe gafodd un fenyw anafiadau i'w choesau.

"Ni chafwyd adroddiadau am unrhyw anafiadau eraill," dywedodd Heddlu Gogledd Cymru.

Llwyddodd perchennog y cwch i gael ei hun allan o'r dŵr, tra cafodd y fenyw ei thrin gan feddyg a nyrs nad oedd ar ddyletswydd, meddai Gwylwyr y Glannau.

Ychwanegodd llefarydd fod cwch cyfagos sy'n perthyn i Lywodraeth Cymru wedi hefyd cael ei effeithio gan y tan.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: Mae ein meddyliau gyda phawb a anafwyd yn y tân neithiwr. Mae asesiadau ar y gweill i asesu'r difrod i'r FPV Lady Megan."

Pynciau cysylltiedig