Ffermwr yn cael 'her go iawn' i ddenu gweithwyr tymhorol

  • Cyhoeddwyd
Ffermio
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un ffermwr bod "llawer o ffactorau" yn cyfrannu at y broblem, gan gynnwys Brexit ac effaith y pandemig

Mae ffermwr o Sir Benfro yn dweud ei bod hi'n "her go iawn" ceisio dod o hyd i weithwyr tymhorol ar gyfer y cynhaeaf eleni.

Mae teulu Tessa Elliot yn tyfu tatws ger pentref Creseli yn ne'r sir.

Mae gan ffermwyr llysiau "ddigon ar ein platiau" yn ymdopi â'r tywydd anffafriol, heb y pwysau ychwanegol o gael staff, meddai.

Dywedodd bod "llawer o ffactorau" yn cyfrannu at y broblem, gan gynnwys Brexit ac effaith y pandemig.

Mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu nifer y fisas sydd ar gael i weithwyr tymhorol o draean, sy'n dod â nifer y bobl sydd â'r hawl i deithio yma i gynaeafu i 45,000.

Ond yn ôl Tessa, "roeddem yn arfer bod gyda nifer o weithwyr o dramor yn dod yma i wneud gwaith tymhorol, ac wedyn bydden nhw'n mynd adref am y gaeaf, ond ddim bellach".

"Ac er bod mwy o fisas ar gael, mae hyn dal yn her go iawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Os na allwn ni ddod o hyd i weithwyr, bydd y tatws yma ddim yn cyrraedd platiau pobl - mae hi mor syml â hynny," meddai Tessa Elliot

Mae fferm arall yn Sir Benfro wedi arallgyfeirio fel bod pobl yn dewis eu llysiau eu hunain, yn rhannol oherwydd nad oeddent eisiau dibynnu ar lafur allanol.

Mae Hugh a Rachel Thomas yn tyfu cnydau ar eu fferm ger Nanhyfer, ond maent wedi agor i'r cyhoedd ar ôl plannu pwmpenni mewn cae nad oedd yn cael ei ddefnyddio. 

Nawr mae ganddynt barc chwarae i blant, ac yn yr haf maent yn tyfu blodau haul i bobl ddewis eu hunain.

Yn ôl Hugh: "Mae e'n jobyn planio 'mlaen ac er bod 'na incentives i gael gweithwyr ar y ffarm, i gael nhw i ddod bob dydd ac yn regular, heb orfod chaso, mae'n broblem."

Dywedodd bod prinder gweithwyr yn rannol gyfrifol am eu penderfyniad i ddatblygu'r busnes.

"I radde, ni isie bod yn independent a dim dependo gormod ar labour, ond ni isie bod fwy self-contained a 'na un rheswm am fynd yn y direction 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hugh Thomas eu bod eisiau bod yn fwy annibynnol, ac yn llai dibynnol ar lafur

Ond yn ôl Aled Davies, ymgynghorydd sir i NFU Cymru, nid yw mwy o fisas yn ddatrysiad i brinder gweithwyr ar bob fferm.

"Mae 'na broblem gyda gweithwyr tymhorol yn gallu gweithio yn y wlad hyn nawr," dywedodd.

"Rydym yn croesawu'r faith bod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r hawl i 45,000 o bobl i weithio ym Mhrydain dros dro, ond mae'n dal i fod yn broblem ar rai ffermydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Aled Davies fod diffyg gweithwyr tymhorol yn broblem er gwaetha'r ffaith bod mwy o fisas ar gael

I Tessa Elliot, mae'n broblem ddifrifol.

"Os na allwn ni ddod o hyd i weithwyr, bydd y tatws yma ddim yn cyrraedd platiau pobl - mae hi mor syml â hynny," meddai.

Mae hi eisiau ymgyrch i ddenu myfyrwyr prifysgolion yn ystod gwyliau'r haf.

"Fe fyddai cynllun sy'n gadael iddynt wybod lle mae'r swyddi yn syniad da," dywedodd.

"Os ydych chi'n rhoi hysbyseb am swydd allan, dylai bod gennych chi ddigon o geisiadau i allu dweud, 'dyma pryd rydyn ni'n cynaeafu, a fyddech chi'n hoffi bod yn rhan o'r tîm?'"

'Rhan annatod o'r economi wledig'

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Mae llafur tymhorol yn rhan annatod o economi wledig y DU, ac rydym yn parhau i gefnogi ffermwyr drwy'r llwybr Fisas i Weithwyr Tymhorol.

"Fe fyddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr a thyfwyr gyda'r bobl sydd ei angen arnynt, tra'n gwneud gwelliannau i'r llwybr Gweithwyr Tymhorol i ddod ag ecsploetiaeth i ben, ac fe fyddwn ni'n cymryd camau cryf yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r rheolau."