Cynllun plannu coed yn 'angenrheidiol' - Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
coedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford fod y cynllun plannu coed yn hollbwysig, ond y bydd rhywfaint o hyblygrwydd yn y cynllun terfynol

Mae plannu rhagor o goed yng Nghymru yn "angenrheidiol" meddai'r prif weinidog, wrth amddiffyn cynlluniau i ddiwygio'r system gymorthdaliadau i ffermwyr.

Mae'r cynllun wedi bod dan y lach ers ei gyhoeddi, gydag un undeb amaeth, NFU Cymru, yn ei wrthod yn llwyr.

Yn rhan o'r model newydd, y bwriad yw rhoi mwy o bwyslais ar fesurau amgylcheddol, gan gynnwys plannu coed a gwella ansawdd dŵr.

Ond wrth siarad gyda BBC Cymru yn y Sioe Fawr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn benderfynol o fwrw 'mlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Mr Drakeford mai'r amser i ddelio gyda newid hinsawdd yw nawr, nid yn y dyfodol

Ddydd Llun, galwodd Undeb Amaethwyr Cymru am fwy o hyblygrwydd wrth gyflwyno newidiadau i'r system o dalu ffermwyr.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n angenrheidiol i ni yma yng Nghymru blannu mwy o goed yn y dyfodol i'n helpu ni yng nghyd-destun newid hinsawdd.

"Ry'n ni am i ffermwyr i helpu ni wneud y gwaith yna, a ni'n fodlon eu talu nhw i wneud e.

"Allwn ni ddim sefyll 'nôl o'r egwyddor hynny - ond wrth gwrs ni'n fodlon parhau i drafod pethau, y manylion am sut allwn ni wneud hyn yn ymarferol."

Y targed ar gyfer Cymru gyfan yw plannu coed ar 10% o'r tir amaethyddol, sydd wedi denu beirniadaeth gan rai.

Ond ychwanegodd Mr Drakeford: "'Dyn ni ddim yn disgwyl i bob ffarmwr ledled Cymru fod ar y lefel yna [10%], achos mae natur y tir yn newid o un lle i'r llall ac yn y blaen.

"Dyna pam y'n ni ddim wedi rhoi'r manylion terfynol mas eto. Y'n ni dal mewn sgwrs gyda'r undebau... ni eisiau ymgynghori unwaith eto ar y cynllun.

"Felly ar y cyfan rhywbeth fel 10% sy'n rhaid i ni gael drwy Gymru i gyd, ond ar lefel bob fferm, bydd mwy o hyblygrwydd dw i'n siwr."

'Yr amser yw nawr'

Mae 'na awgrym bod polisïau'r Blaid Lafur yn Llundain i leihau llygredd wedi colli pleidleisiau iddi yn is-etholiad Uxbridge yr wythnos ddiwethaf.

Fe holwyd Mr Drakeford hefyd am bolisi ULEZ yn Llundain - ardal o allyriadau isel iawn i geisio taclo llygredd gan draffig - wedi i rai honni mai dyna oedd yn gyfrifol am golli'r is-etholiad.

Atebodd: "Mae'n bwysig i dynnu pobl gyda ni, yn enwedig mewn adeg newid costau byw pan mae pobl yn becso am sut allan nhw fforddio pethau.

"Ond yn fy mhrofiad i mae pobl yno yn barod. Mae pobl eisiau gweld y llywodraeth a phobl sydd â chyfrifoldeb i gymryd newid hinsawdd o ddifri'.

"Edrychwch beth mae pobl yn gallu gweld bob nos yr wythnos hon, bob wythnos yng ngwlad Groeg.

"Yr amser i wneud pethe' - i ddelio gyda newid hinsawdd - yw nawr, nid yn y dyfodol, a dwi'n meddwl fod pobl yn barod."

Pynciau cysylltiedig