Pa ochr i'r ffens? Portread artist dur o'r byd wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ffens melyn a phioncFfynhonnell y llun, Roland Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Ffens wedi malu ger Clwb Pêl-droed Pontardawe wedi ei drawsnewid yn gerflun lliwgar yn arddangosfa Impact/Ardrawiad sy'n cyfleu teimladau'r artist Angharad Pearce-Jones am gyflwr 'rhanedig' y byd

Artist a gof sy'n ennill ei bywoliaeth drwy greu rheiliau, giatiau a ffensys dur syth a chadarn yw Angharad Pearce Jones fel arfer. Ond mae hi wedi treulio'r saith mlynedd ddiwethaf yn stopio ar ochr ffyrdd i dynnu lluniau rheiliau sydd wedi malu, torri neu blygu ar gyfer ei harddangosfa ddiweddaraf.

Arddangosfa Impact/Ardrawiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yw gwaith mwyaf yr artist sy'n adnabyddus am ei gweithiau dur trawiadol hyd yma ac mae wedi ei sbarduno gan bleidlais Brexit.

Yn ei hefail rhwng Garnant a Brynaman yn Sir Gaerfyrddin mae hi wedi ail-greu'r hen reiliau rhacs mae hi wedi dod ar eu traws a'u troi yn drysorau o gerfluniau lliwgar ar gyfer un rhan o'r arddangosfa.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Pearce Jones yn gweithio mewn dur ers dros 30 mlynedd

I bobl mwyaf sylwgar Brynaman a'r cyffiniau fe allai llawer o'r darnau fod yn gyfarwydd a bydd rhywun, rhywle, yn gwybod beth yw eu stori.

Un o'r rheiny ydi'r bwlch yn ffens Ysgol Gynradd Brynaman.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

"Mae hwnne'n eitha' emosiynol i fi achos hwnne ydi'r bwlch mae cenedlaethau o blant Bynaman wedi gwthio drwyddo fo," meddai Angharad.

"Pan mae'r plant yn dod allan o'r ysgol maen nhw'n mynd i'r parc i chwarae a mae'r rhieni i gyd yn siarad. Wedyn pan ti'n barod i fynd, mae'r plant i gyd yn gwthio drwy'r gap yna. A does neb wedi ei drwsio fo!"

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

Mae gan bob un o'r darnau yma stori ac maen nhw'n hunan-gofiannol i raddau, esbonia Angharad: "O'n i'n sylwi ar y pethau yma ar y ffordd - mae lot ohono am fod yn fam weithiol.

"Pan dwi'n gyrru o gwmpas neu'n mynd â'r plant i ymarferion pêl-droed ym Mhontardawe neu wersi nofio yn Ystradgynlais dwi 'di bod yn sylwi, 'duwcs be' sydd 'di digwydd yn fanne?'

"Achos mod i'n gweithio mewn dur ac yn gwneud lot o reiliau i wneud arian - dyna ydi'n job bara menyn i - dwi'n dueddol o sylwi os oes un wedi plygu neu gael ei chwalu mewn ffordd 'falle fyse pobl eraill ddim."

Ymarferion pêl-droed

Daw'r giât fawr binc a melyn sydd ynghanol yr oriel o faes parcio Clwb Pêl-droed Pontardawe lle mae Angharad wedi treulio blynyddoedd yn eistedd yn ei fan ym mhob tymor yn aros i'w mab orffen chwarae.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis
Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

"Mae'r un pinc efo leopard skin mewn lle pêl-droed five-a-side ti'n gorfod talu i fynd i mewn, a reit ar y pen roedd yna teenagers wedi tynnu'r ffensys i'r ochr fel eu bod nhw'n gallu mynd i mewn heb dalu. Mae 'na wastad rywbeth tebyg mewn gŵyl neu yn yr Eisteddfod: mae lot o bobl yn cofio neu'n uniaethu efo bwlch fel yna.

"Mae'n dipyn bach o brotest... dwi'n licio hynny."

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

Daw'r giatiau aur hardd o gapel Hen Fethel yn y Garnant ger cartref Angharad, lle claddwyd Ryan Davies. Dydyn nhw ddim yn cau yn iawn bellach am eu bod "wedi cael clonc," esbonia Angharad.

Osgoi damwain

Yr ardrawiad cyntaf a ddechreuodd y casgliad oedd rheiliau y tu allan i archfarchnad yn Majorca, lle roedd ar ei gwyliau gyda'i theulu.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

Ychydig oriau cyn parcio o flaen y rheiliau roedd hi wedi ei hysgwyd gan brofiad annymunol yn y car pan lwyddodd i osgoi gwrthdrawiad gyda char arall o drwch blewyn yn unig, gyda'i mab yn y car. Roedd hi'n chwys oer wrth feddwl y gallai fod wedi bod yn angheuol.

"Mae'r darn yne fel allor bron iawn; mae o ar plinth. Y rheswm dwi 'di defnyddio patrwn blodau arno ydy oherwydd fod pobl yn gadael blodau ar dop y rheiliau pan mae 'na grash neu pan mae rhywun yn marw mewn damwain," eglura.

'Cofiwch Dryweryn'

Y giât fferm ar y wal yw ei theyrnged i gofeb Cofiwch Dryweryn, meddai. Fe ymddangosodd ar yr union adeg iawn ar un o'i theithiau i fyny ac i lawr i Aberystwyth i drefnu'r oriel pan oedd hi'n arfer stopio wrth y wal â'r graffiti enwog yn Llanrhystud i gael paned o de.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

"Ro'n i'n chwilio am enghraifft o ardawiad lleol i Abersystrwyth i fod yn rhan o'r arddangsofa. Un diwrnod nes i edrych i fyny o mhaned ac oedd y giât wrth ymyl y 'Cofiwch Dryweryn' wedi ei smasho yn hollol, wedi plygu i gyd - roedd o fel rhodd!" meddai Angharad sy'n dod yn wreiddiol o'r Bala. ardal cronfa Tryweryn.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

"Be' dwi'n hoffi am rhain i gyd ydi bod 'na naratifs yno - mae pobl yn dod â'u storis eu hunain. Ac mae rhywun allan yna yn gwybod pwy ddaru hitio mewn i'r ffens... sut ddaru o ddigwydd a pryd?

"Dwi'n teimlo dipyn bach fel ditectif weithiau pan dwi'n eu hail-greu nhw wrth drio ffeindio allan, be' ddigwyddodd fan hyn? Pa fath o drawiad, pa gerbyd, fyse wedi gwneud hyn?"

Mae'n dipyn o dasg i geisio ail-greu'r gwaith yn ei gweithdy "mor berffaith â phosib" meddai.

"Mae'n ufflon o anodd - yn dechnegol mae'n un o'r pethe anodda dwi erioed wedi ei wneud."

'Car crash' o gyfnod

Yn ogystal â'r rheiliau wedi malu, prif waith yr arddangosfa ydi ffens balisâd enfawr o ddur sy'n gwahanu'r holl ystafell ac a godwyd yn wreiddiol yng nghartref Angharad ei hun yn ystod y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

Hwn oedd sbardun yr arddangosfa, sef ymateb Angharad i bleidlais Brexit gyda'i symboliaeth yn adlewyrchu rhaniadau mewn cymdeithas, galwadau Donald Trump am 'wal' gyda Mecsico, ffiniau ac ymgyrchoedd datganoli Cymru a'r Alban.

Ar gyfer yr arddangosfa yma, roedd hi eisiau i'r ymwelwyr wynebu dewis cyn dod i mewn, esbonia.

"Pan ti'n cerdded i mewn i'r oriel dwi 'di creu dau ddrws i mewn i'r gwaith gosod so ti unai'n mynd i'r chwith neu i'r dde, does gen ti ddim dewis arall," meddai Angharad. "Dydyn nhw ddim yn gwybod tan ma' nhw'n dod rownd y gornel bod 'na glamp o ffens yn eu gwahanu nhw o'r ochr arall."

"Dim yn aml ti'n gorfod gwneud dewis mor ddeuaidd ac roedd y fôt am Brexit mor ddeuaidd; roedd o'n naill ai ie neu na," meddai.

Yn fuan wedi iddi ddechrau gweithio ar y syniad yma o raniadau Brexit, fe ddaeth y pandemig gan ychwanaegu haen arall i'r gwaith.

"Pan ddaeth Covid doedd unlle i mi wneud y ffens ond yn fy nhŷ fi'n hun achos o'n i'n methu mynd allan i ddangos mewn orielau," meddai Angharad, "felly wnes i wneud trial run yn y tŷ."

Cododd y ffens fawr ddur yn ei chartref gan rannu'r gegin a'r bwrdd bwyd.

Ffynhonnell y llun, Angharad Pearce-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gosododd Angharad y ffens drwy ei chegin gan hollti'r bwrdd bwyd teuluol yn ystod Covid-19

"O'n i un ochr a'r plant yn chware yr ochr arall. Roedden nhw'n gorfod mynd allan drwy'r drws cefn a reit rownd i'r drws ffrynt i wneud paned yn y gegin!"

Dim ond am 24 awr y gadawodd y ffens yn y gegin ond roedd yn ddigon i gael cip ar sefyllfa oedd yn real iawn i rai teuluoedd oedd wedi eu gwahanu oddi wrth ei gilydd oherwydd y feirws.

Ffynhonnell y llun, Roland Dafis

"Rydyn ni wedi bod yn byw drwy car crash o amser, a dyna be' dwi'n meddwl sy'n dod allan o'r arddangosfa; mae'r holl beth yn metaffor o be' yden ni wedi mynd drwyddo fo, ac yn dal i fynd drwyddo fo.

"Mae un rhan o'r arddangosfa am y ffordd mae dur yn ein caethiwo ni neu'n edrych ar ein hôl ni yn gadarn ac yn gryf a wedyn ti'n cerdded allan i'r ffordd mae dur yn gallu torri lawr a chwalu felly yr un pryd a sylwi bod y reilings yma i gyd wedi torri yn bob man, mae'r byd rownd ni wedi bod yn torri hefyd.

"Mae'r gair impact yn y teitl ddim jyst am hitio rwbeth, mae o hefyd am effaith gwneud dewis," meddai.

"Ac mae effaith Brexit yn dal i fynd."

Mae'r arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth tan ddydd Sul 12 Tachwedd 2023.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig