Wyddoch chi... am fras Pontllanfraith?
- Cyhoeddwyd
Am dros ganrif, roedd dillad isaf safonol yn cael eu creu mewn ffatrïoedd yn ne Cymru... a nawr mae ymgyrch i geisio dod â'r diwydiant yn ôl.
Ar un adeg roedd chwe ffatri fawr yn y Cymoedd - yn Aberbargoed, Ystalyfera, Rhymni, Pontllanfraith, Glyn Ebwy a Merthyr Tudful - yn cynhyrchu dillad isaf ar gyfer rhai o'r cwmnïoedd lingerie mwyaf poblogaidd, ond o un i un, cau oedd hanes y ffatrïoedd.
Pan gafodd ffatri Gossard - a oedd yn cynhyrchu'r Wonderbra - ei gau ym Mhontllanfraith yn 2001, symudodd cyn-aelod o staff y peiriannau i ffatri yn Nhredegar Newydd a sefydlu cwmni AJM.
Roedd gan y cwmni gytundeb llewyrchus gyda'r cwmni dillad isaf moethus, Agent Provocateur, ond yn anffodus, cafodd y ffatri yntau ei gau yn 2018, a dyna oedd y diwedd ar gynhyrchu dillad isaf yn yr ardal.
Fodd bynnag, heddiw, mae'r dylunydd dillad a beirniad The Great British Sewing Bee, Patrick Grant - gyda help ambell i seleb Cymreig, fel y cyflwynwyr Kiri Pritchard-McLean a Wynne Evans - eisiau dod â'r niceri a bras yn ôl i'r ardal.
Nod y cwmni Community Clothing yw i gynyddu cynhyrchu dillad mewn ffatrïoedd ledled y DU. Mae Patrick yn awyddus i weld y diwydiant creu dillad isaf o safon yn dychwelyd i'r Cymoedd unwaith eto, gan ail-agor ffatri Tredegar Newydd, a rhoi cyfle i rai o'r gwniadwyr a gollodd eu swyddi ddegawdau yn ôl i ail-gydio yn y peiriant gwnïo.
Ac, wedi dwyn ysbrydoliaeth gan ymgyrch 'Hello Boys' Wonderbra ddechrau'r 90au, enw'r ymgyrch yma, wrth gwrs yw Hello Boyos!
Hefyd o ddiddordeb: