Cyhoeddi cân newydd i roi hwb i Fenter yr Eagles

  • Cyhoeddwyd
Tafarn yr EaglesFfynhonnell y llun, IOLO PENRI
Disgrifiad o’r llun,

Mae menter wedi gosod targed i godi £500,000 er mwyn datblygu tafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn

Mae fersiwn Gymraeg o'r gân Hotel California wedi ei chyhoeddi fel rhan o'r ymdrechion i godi arian i ddatblygu tafarn enwog yr Eryrod yn Llanuwchllyn.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y perchnogion presennol eu bod yn ymddeol, ac fe gafodd Menter yr Eagles ei sefydlu i sicrhau dyfodol y dafarn.

Mae'r fenter wedi gosod targed i godi £500,000 er mwyn ei rhedeg fel tafarn, tŷ bwyta a siop gymunedol.

Fel rhan o'r ymdrechion, mae criw o gantorion a cherddorion enwog, sydd â chysylltiadau yn lleol, wedi dod at ei gilydd i recordio'r fersiwn Gymraeg.

Y pedwar yw Osian Huw Williams, Branwen Haf, Marged Gwenllian ac Ifan Prys o fandiau Candelas a'r Cledrau.

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Prif leisydd Candelas, Osian Huw Williams, ydi un o'r rheiny tu ôl i'r gân

Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Iau, fe esboniodd Osian o ble ddaeth y syniad am greu fersiwn Gymraeg o gân enwog yr Eagles.

"Ges i'r syniad bod rhaid gwneud rhyw fath o gân neu cover ar gyfer yr ymgyrch i ysgafnhau bob dim a dod â phawb at ei gilydd i helpu'r fenter," meddai.

"Ond fy mrawd-yng-nghyfraith sy'n cael y clod am gael y syniad, a na - doeddan ni ddim yn yr Eagles pan gafon ni'r syniad!"

Ychwanegodd: "Dwi a'n chwaer yn dal i fyw yn y pentref, ac mae Marged ac Ifan Prys o'r Cledrau i gyd yn dod o Lanuwchllyn - 'sa'n wirion 'sa ni ddim yn creu rhywbeth tebyg i hyn.

"Dwi ar y pwyllgor, ac ma' petha' yn gallu mynd mor ddifrifol - mae pobl yn mynd i boeni a meddwl os wyt ti am hel y pres - felly mae'n atgoffa pobl mai rhywbeth positif ydi hyn."

'Dipyn o swm'

Mae'r ymdrechion yn parhau i gyrraedd y nod o godi £500,000.

Hyd yma mae'r swm yn agosáu at y £200,000 ac mae Osian yn ffyddiog y gallan nhw gyrraedd y targed.

Ffynhonnell y llun, IOLO PENRI
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian y byddai colli'r dafarn yn "glec fawr" i'r gymuned

"Mae o'n dipyn o swm. Mae pethau yn mynd yn ofnadwy o dda ar y funud - newydd basio y £200,000, sy'n anhygoel i bentref mor fach.

"Os 'dan ni yn cael 'chydig mwy - ryw £250,000 - croesi bysedd buasen ni'n cael arian cyhoeddus wedyn.

"Mae 'na gefnogaeth i bopeth yn yr ardal yma, ac o safbwynt personol, 'da ni'n mynd yno 'chydig yn rhy aml yn enwedig ar nos Iau ar ôl ymarfer côr.

"Mae'n dafarn, ond hefyd yn siop a chymaint o gymdeithasau yn cwrdd yno o'r Ffermwyr Ifanc i'r to hŷn - dwi'n meddwl os fysan ni'n colli rhywle fel hyn mi fasa fo'n glec fawr.

"Dwi'n erfyn ar bawb i fynd i hel eu ceiniogau - mi fasa ni'n gwerthfawrogi lot."

Ac o ran y gân, mae Osian yn gobeithio y bydd yn hwb gwerthfawr i'r ymdrechion.

"Mae'n un o'r rheiny, os 'newch chi wrando arni, alla i sicrhau fydd hi'n sownd yn eich pennau drwy'r dydd - mae'n un o'r rheiny sy'n gweithio."

Pynciau cysylltiedig