Pryder am ddyfodol casgliad o hen injans tân
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol casgliad o hen injans tân ac offer arall yn ymwneud â'r gwasanaeth tân yn y fantol, oherwydd nad oes yna le addas i'w cadw yn ardal Castell-nedd.
Mae Cymdeithas Adfer Injans Tân Cymru (WAFERS) wedi bod yn casglu hen gerbydau ers 30 mlynedd, ond maen nhw'n dweud y gallan nhw orfod eu gwerthu os na ddaw lleoliad gwell i'r amlwg i'w cadw a'u harddangos.
Mae'r creiriau wedi bod mewn uned ddiwydiannol yn Sgiwen ers sefydlu'r gymdeithas.
"Roedden ni'n arfer cael plant ysgol yma ar gyfer darlithoedd yn ymwneud â'r gwasanaeth tân, ond nid dyma'r lle gorau," meddai Malcolm Evans, ysgrifennydd y gymdeithas.
"Roedden ni'n poeni go iawn y gallai plant gael damwain y tu fas."
Yn y casgliad, mae injans o'r 1700au hyd at y cyfnod modern.
Yn eu plith mae injan dân o Aberdâr, gafodd ei ddefnyddio adeg trychineb Aberfan ym 1966.
Hen swyddogion tân yw rhan fwyaf o aelodau'r gymdeithas, a ddaeth at ei gilydd oherwydd eu hoffter o'r gwasanaeth.
"Pan nes i ymddeol, roeddwn i eisiau cadw'r teimlad o gwmnïaeth oedd gen i yn y gwasanaeth," meddai Raymond Evans, un o sylfaenwyr y gymdeithas.
"Penderfynais i brynu injan dân, a chael tipyn o hwyl yn teithio ynddi, gan fynd i wersylla ac yn y blaen.
"Yna sylweddolais fod 'na bobl eraill yn lleol oedd wedi prynu injans hefyd, felly penderfynon ni ddod at ein gilydd i ffurfio grŵp."
Dros 30 mlynedd, maen nhw wedi casglu llwyth o offer a deunydd yn ymwneud â hanes y gwasanaeth tân - gan gynnwys cannoedd o deganau, bathodynnau a helmedau.
Un o'r creiriau mwyaf anarferol yw bwyell allai fod wedi'i defnyddio yn y ffilm arswyd enwog, 'The Shining'.
Fe dderbynion nhw'r fwyell ymhlith casgliad o greiriau eraill o amgueddfa dân yng Ngwlad yr Haf, pan gaeodd rai blynyddoedd yn ôl.
Hefyd mae yna injan filwrol o'r Alban, a pheiriant o Ilkley yn Swydd Efrog lle roedd y darlledwr a'r garddwr Alan Titchmarsh yn gweithio fel swyddog tân rhan amser.
Gobaith y grŵp bellach yw y daw rhywun i gynnig lleoliad mwy addas i arddangos y casgliad.
"Be hoffen ni ddigwydd yw daw rhywun i'r fei gydag adeilad sy'n well - heb lwch - lle byddai modd i ni gynnal darlithoedd, a rhoi cyfle i blant ysgol ymweld â ni," meddai Malcolm Evans.
"Mae'n gasgliad arbennig - yn gasgliad cenedlaethol, does dim amheuaeth o hynny."
Mae'r creiriau yn Sgiwen yn ffrwyth llafur oes o gasglu gan Raymond Evans, ac mae'n gobeithio bydd modd eu hachub ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Byddai'n golygu popeth i fi a dweud y gwir, oherwydd mae 'na gymaint o hanes yma, allwn ni ei basio ymlaen at blant heddiw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023