'Amhosib' trwsio hen gofeb yn y canolbarth heb ailadeiladu
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid ailadeiladu hen gofeb yn y canolbarth yn lle ei atgyweirio, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd y corff fod cyflwr Colofn Rodney ym Mhowys yn waeth na'r disgwyl ac yn rhy ansefydlog.
Roedd contractwyr wedi dechrau ar y gwaith o'i hatgyweirio yn gynharach eleni.
Mae CNC wedi penderfynu mai'r ffordd orau o weithredu yw datgymalu ac ailadeiladu'r strwythur.
Mae Colofn Rodney - adeilad rhestredig Gradd II a enwyd ar ôl y Llyngesydd George Brydges Rodney - wedi sefyll ar graig un o fryniau Breiddin uwchlaw pentref Crugion ers dros 230 o flynyddoedd.
Mae'r gofeb, sy'n 54 troedfedd o uchder, yn gyrchfan boblogaidd i gerddwyr.
O'r copa, mae modd gweld Cader Idris a'r Rhinogydd, ac ar ddiwrnod clir gallwch weld mor bell ag Ellesmere Port.
Mae pryderon am ei ddiogelwch wedi eu codi ers tro ac fe gafodd elusen ei ffurfio yn 2019 i'w ddiogelu.
'Amhosib atgyweirio'
Dywedodd Ruairi Barry, rheolwr prosiect CNC eu bod yn ymwybodol y gallai rhai pobl leol fod yn anfodlon ynglŷn â gorfod ailadeiladu'r gofeb.
"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Colofn Rodney i'r cymunedau o'i chwmpas, ac y gallai rhai fod yn anhapus â'r syniad o'i thynnu i lawr a'i hailadeiladu," dywedodd.
"Daethom i'r penderfyniad hwn ar ôl i ymchwiliadau arfaethedig roi gwell dealltwriaeth inni o'r problemau strwythurol mae'r golofn yn eu hwynebu.
"Mae ei chyflwr wedi dirywio i'r fath raddau fel ei bod yn amhosib ei hatgyweirio."
Ychwanegodd y bydd unrhyw gynlluniau'n adlewyrchu strwythur gwreiddiol y gofeb.
Dywedodd Bill Lee, cadeirydd Ymddiriedolaeth Save Rodney's Pillar y byddan nhw'n parhau i weithio'n agos gyda CNC.
"Rydyn ni eisiau i'r piler barhau i fod yn lle poblogaidd i ymweld ag ef ac i fod yn ddarn pwysig o hanes lleol," dywedodd.
Mae tîm arbenigol CNC yn gweithio gyda CADW ac eraill i ddod o hyd i'r ffordd orau o wneud y gwaith.
Bydd y golofn yn parhau ynghau i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2019
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2018