Teulu mewn anghydfod â Ryanair dros dâl £165 maes awyr

  • Cyhoeddwyd
Damian Lloyd a'i deuluFfynhonnell y llun, Damian Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r teulu o Gastell-nedd ail gyflwyno'u dogfennau a thalu ffi o £165 pan fethodd eu pasys â gweithio

Mae teulu o Gastell-nedd yn dadlau gyda Ryanair ar ôl gorfod talu £165 i ailgyflwyno'u dogfennau yn y maes awyr, ar ôl i'r cwmni ddweud eu bod wedi "dadgyflwyno'u manylion" ar-lein.

Roedd Damian Lloyd wedi cyflwyno dogfennau ei deulu ar-lein (online check-in) fis cyn eu taith, a daeth â'u pasys wedi'u printio i'r maes awyr.

Ond pan gyrhaeddodd y teulu doedd y pasys ddim yn sganio a bu'n rhaid i'r teulu gyflwyno eu dogfennau eto.

Fe geisiodd Mr Lloyd gael yr arian yn ôl, ond dywedodd Ryanair fod y ffi yn gywir.

Wedi sawl wythnos o ddadlau mae'r cwmni nawr wedi cyfeirio Mr Lloyd at wasanaeth datrys anghydfod.

Roedd Mr Lloyd, 50, ar y ffordd i dreulio gwyliau yn Gran Canaria gyda'i deulu ym mis Gorffennaf.

Dywedodd ei fod yn hedfan yn aml, ac nad yw erioed wedi cael problemau gyda ffioedd ychwanegol Ryanair, felly roedd yn "sioc lwyr" pan fethodd y pasys sganio.

Yn ôl Mr Lloyd roedd y gweithiwr oedd wrth y ddesg hefyd wedi drysu.

"Edrychodd ar y cyfrifiadur, ac roedd ein henwau a rhifau ein seddi'n ymddangos," dywedodd, "ond am ryw reswm doedden nhw [y pasys] ddim yn sganio."

'Creu esgusodion'

Gan ei bod yn gynnar yn y bore roedd y gweithiwr yn methu â ffonio gwasanaeth cwsmeriaid Ryanair i ddod o hyd i wraidd y broblem.

Felly bu'n rhaid i'r teulu ddewis - un ai aros i'r gwasanaeth cwsmeriaid a cholli'r hediad neu dalu am basys newydd.

Gyda'r hediad nesaf mewn tri diwrnod penderfynodd Mr Lloyd dalu.

Yn ôl Mr Lloyd dywedodd y gweithiwr mai problem gyda'r cyfrifiadur oedd ar fai ac y gallai'r teulu adennill eu harian.

Ond pan ofynnodd Mr Lloyd am ad-daliad fe wnaeth Ryanair wrthod y cais, gan ddweud nad eu system nhw oedd ar fai.

Yn gyntaf dywedodd y gwasanaeth cwsmer nad oedd y teulu wedi gwirio pwy oedden nhw, cyn wedyn cytuno bod hynny'n "anghywir." Dywedon wedyn eu bod wedi dadgyflwyno eu manylion cyn y daith.

"Fe wnaeth Ryanair greu'r holl esgusodion yma," dywedodd Mr Lloyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran Ryanair: "[Gwnaeth y teulu] ddadgyflwyno'u manylion eu hunain ar y wefan ar 22 Gorffennaf ac anwybyddu neges yn eu rhybuddio y byddai'n rhaid cyflwyno eu dogfennau eto a chreu pasys newydd.

"Gan nad oedd ganddyn nhw basys dilys, roedd yn gywir bod yn rhaid iddynt dalu ffi yn y maes awyr."

Mae Mr Lloyd yn gwadu hyn gan ddweud: "Dwi'n methu cofio mynd ar y wefan ar ôl cyflwyno fy nogfennau.

"Maen nhw'n ennill cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn. Os wnes i gamgymeriad bydden i'n derbyn hynny a'n talu ond roedd gen i'r pasys cywir."

Mae Ryanair wedi cyfeirio Mr Lloyd at AviationADR, cynllun datrys anghydfod annibynnol.

Pynciau cysylltiedig