Cymry yn wynebu hyd at wythnos dramor wedi trafferthion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu'n rhaid i Guto Harries gymryd bws wyth awr a thrên dosbarth cyntaf er mwyn cyrraedd Llundain o Genefa

Mae teithwyr o Gymru wedi eu rhybuddio y gallan nhw fod yn disgwyl hyd at wythnos arall cyn cael dychwelyd i'r DU, yn dilyn nam gyda system rheoli gofod awyr y DU ddechrau'r wythnos.

Mae'r trafferthion mewn meysydd awyr yn parhau am drydydd diwrnod bellach, wedi i'r broblem ddod i'r amlwg ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Er i'r broblem gael ei datrys o fewn ychydig oriau, mae disgwyl i'r aflonyddwch barhau am sawl diwrnod arall.

Yn ôl pennaeth NATS - y cwmni sy'n gyfrifol am reoli traffig awyr y Deyrnas Unedig - maen nhw wedi rhoi mesurau mewn lle er mwyn sicrhau nad yw nam o'r fath yn digwydd eto.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod yn rhaid i gwmnïau hedfan "gyflawni eu dyletswyddau" i deithwyr sydd wedi cael eu hamddifadu o deithio dros y dyddiau diwethaf.

Cafodd o leiaf 281 o hediadau i mewn ac allan o chwe maes awyr prysuraf y DU eu canslo yn llwyr ddydd Mawrth.

Disgwyl tan 6 Medi

Ar ynys Ibiza yn Sbaen yn methu dychwelyd adref i Gymru mae Courtney Faulkner a chriw o ffrindiau.

Roedden nhw i fod yn hedfan yn ôl i Fryste yn oriau mân y bore ddydd Mawrth, ond fe gafon nhw wybod gan EasyJet ychydig oriau cyn hynny fod yr hediad wedi'i ganslo.

Mae'r cwmni bellach wedi awgrymu bod gan Courtney ddau opsiwn - talu eu hunain am daith adref fyddai'n cymryd rhyw 24 awr, gyda hediad i Rotterdam ac yna thrên i Lundain.

Neu'r opsiwn arall yw disgwyl wythnos arall yn Ibiza tan 6 Medi am hediad i Luton.

Mae 'na awgrym hefyd y gallai hediad i Gatwick fod ar gael ar 1 Medi, ond ar hyn o bryd mae "popeth dal lan yn yr awyr", meddai ar Dros Frecwast.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd o leiaf 281 o hediadau i ac o chwe maes awyr prysuraf y DU eu canslo yn llwyr ddydd Mawrth

Dywedodd bod y criw wedi gorfod gwahanu hefyd er mwyn canfod ffyrdd yn ôl adref - gyda rhai yn cael cynnig gwesty am fod ganddynt becyn gydag EasyJet, ac eraill wedi gorfod aros yn y maes awyr.

"Mae tri o'n ffrindiau ni yn y maes awyr yn aros am y flight draw i Rotterdam, ac wedyn yn dal yr Eurotunnel i Lundain yfory," meddai.

Ond os yw Courtney yn cymryd yr opsiwn yna, mae'n dweud fod EasyJet wedi ei rhybuddio na fyddai'n gymwys am ad-daliad.

Roedd Courtney i fod yn ôl yn ei gwaith ddydd Mawrth, sy'n golygu ei bod eisoes wedi colli deuddydd o waith ac yn debygol o leiaf ychydig ddyddiau yn rhagor.

"Mae llawer o'r merched eraill yn self-employed, so maen nhw'n colli arian, a ddim yn siŵr sut maen nhw'n mynd i gael hynny 'nôl."

'Bydda i'n talu fe 'nôl am sawl mis'

Un sydd wedi llwyddo i gyrraedd adref, ond nid heb drafferthion, ydy Guto Harries - o Sir Benfro yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Llundain.

Roedd i fod i hedfan o Genefa i Lundain - taith o lai nag awr - am 16:50 ddydd Llun, ond oherwydd y trafferthion fe sylweddolodd fod ganddo ddau opsiwn.

"Naill ai aros am hediad arall roedd EasyJet yn ei roi i ni - yn hwyr nos Iau neu ddydd Gwener - neu drio ffeindio ein ffordd ein hun yn ôl," meddai ar Dros Frecwast fore Mercher.

Ond oherwydd ei fod yn hedfan yn eithaf hwyr ddydd Llun, dywedodd fod "dim lot o opsiynau" o ran trenau am eu bod yn llawn pobl oedd i fod ar hediadau wedi'u canslo.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Oherwydd y trafferthion cafodd Guto antur yn cymryd bws i Baris, ac yna trên yn ôl i Lundain

"Nes i ffeindio bws yn y pendraw - 19 awr i fynd o Genefa i Lundain - gyda newid ym Mharis," meddai Guto.

"Ond o'dd hwnna dwy awr a hanner yn hwyr, felly nes i fethu'r cysylltiad ym Mharis, felly ro'n i ym Mharis am 'chydig oriau - oedd yn brofiad yn ei hunan!

"Wedyn yn y pendraw ges i docyn Eurostar munud olaf yn hwyr neithiwr."

Ond gan fod y trên hwnnw yn llawn, bu'n rhaid iddo brynu tocyn dosbarth cyntaf ar yr Eurostar.

"Fi wir yn gobeithio ga i hwnna 'nôl gan EasyJet, ond os ddim, bydda i'n talu fe 'nôl am sawl mis dwi'n meddwl."

'Dim sôn am gefnogaeth'

Mae Ieuan Davies a'i wraig Sonja o Langefni dal ym Munich gyda'u meibion, Sam a Seb, ac ar hyn o bryd yn disgwyl bod adref dridiau yn hwyrach na'r disgwyl.

Roedden nhw'n gobeithio bod 'nôl ar Ynys Môn yn hwyr nos Lun yn wreiddiol, ond bellach maen nhw'n gobeithio cael hediad o'r Almaen fore Iau gyda chwmni gwahanol.

Nid dyma'r tro cyntaf i Ieuan brofi trafferthion teithio, ag yntau wedi gorfod gwario dros £900 yn ychwanegol i ddychwelyd o drip yn gwylio Cymru yn Croatia yn gynharach eleni.

Ffynhonnell y llun, Ieuan Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Does 'na ddim sôn am gefnogaeth - 'da chi'n gorfod gwneud pob dim ar eich pen eich hun," meddai Ieuan Davies

Dywedodd fod y diffyg gwybodaeth gan gwmni EasyJet wedi bod yn "ofnadwy".

"Yr unig gysur 'da ni 'di gael ydi bod EasyJet wedi gwneud sylw yn dweud, os ydach chi wedi gwneud eich trefniadau eich hun, y byddan nhw'n eich talu chi 'nôl.

"So mae hynny'n rhywbeth o leia', ond mae o'n rhwystredig.

"Ond does 'na ddim sôn am gefnogaeth - 'da chi'n gorfod gwneud pob dim ar eich pen eich hun."

Beth mae EasyJet wedi'i ddweud?

Mewn datganiad dywedodd EasyJet eu bod "wedi bod yn rhoi cymorth a llety i gwsmeriaid - ac yn cynghori unrhyw un sydd angen gwneud eu trefniadau eu hunain y byddant yn cael ad-daliad".

"Er bod hyn allan o'n rheolaeth, rydym yn ymddiheuro am y problemau mae hyn wedi'i achosi i'n cwsmeriaid, ac yn gwneud popeth i sicrhau bod pawb yn cyrraedd pen eu taith.

"Bydd cwsmeriaid yn cael eu symud i hediadau newydd a byddwn yn cysylltu gyda nhw o ran hynny."

Pynciau cysylltiedig