Cloi ysgol ar ôl darganfod cleddyf samurai a gwn aer
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid rhoi ysgol dan glo wedi i gleddyf samurai a gwn aer gael eu darganfod ar dir yr ysgol.
Dywedodd Heddlu Gwent iddyn nhw gael eu galw i Ysgol Fabanod Bedwas yn Sir Caerffili tua 10:00 fore Gwener, 15 Medi.
Fe anfonwyd swyddogion arfog fel mesur rhagofalus ond nid oedd unrhyw adroddiadau o anafiadau.
Yn ôl yr ysgol nid oedd unrhyw ddisgyblion nag aelodau o staff mewn unrhyw berygl.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mike Preston: "Fe wnaethon ni chwilio tir yr ysgol ac ni ddaeth swyddogion o hyd i unrhyw eitemau pellach.
"Gwnaethpwyd y penderfyniad i roi'r ysgol dan glo tra bod y chwilio yn digwydd er mwyn cadw'r plant a'r staff yn ddiogel rhag unrhyw niwed posib.
"Cafodd y ddwy eitem eu hatafaelu gan swyddogion ac nid oes bygythiad parhaus i unrhyw un sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd.
"Byddwn yn edrych i mewn i sut y daeth y ddwy eitem o bryder hyn i dir yr ysgol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran yr ysgol: "Nid oedd unrhyw ddisgyblion na staff mewn unrhyw berygl ar unrhyw adeg a dilynwyd yr holl weithdrefnau priodol."