'Difrod difrifol' i glwb golff wedi llifogydd Storm Lee
- Cyhoeddwyd
Mae clwb golff yng Nghlydach wedi cael ei "ddifrodi'n ddifrifol" ar ôl bod dan ddŵr wedi llifogydd am yr eildro mewn tair blynedd.
Llifodd sawl troedfedd o ddŵr i Glwb Golff Mond Valley a difrodi'r cwrs golff, ystafelloedd storio, ystafelloedd newid, y siop ddillad, a'r isloriau.
Roedd rhybudd tywydd melyn mewn grym tan 18:00 ddydd Mercher wrth i Storm Lee daro rhannau o Gymru.
Dywed Cadeirydd Clwb Golff Mond Valley, Adrian Jones, ei fod yn disgwyl y bydd y gwaith glanhau yn costio tua £30,000.
Dywedodd Mr Jones, "Mae'n ddifrod llwyr yma. Rydyn ni wedi gweithio mor galed i ailadeiladu'r clwb ar ôl y llifogydd yn 2020.
"Roedden ni'n gallu gweld y dŵr yn dod dros y ceunant i'r cwrs golff, ac roedden ni'n gobeithio na fyddai'n dod mewn i'r clwb.
"Ond roedd dod yma bore 'ma a gweld y difrod i'r clwb ei hun yn gwbl ddinistriol.
"Bydd yn rhaid i ni ailosod a thrwsio'r lloriau, y loceri, yr alcohol oedd islawr, a'r stoc dillad. Costiodd tua £25,000 i lanhau yn 2020, a ni'n credu y bydd yn costio tua £30,000 i ni y tro yma gyda chost chwyddiant."
Mae Adrian yn dweud ei bod hi'n "rhy gynnar i ddweud" pryd fydd y clwb yn ailagor, ac yn dweud y bydd y clwb yn parhau i fod ar gau nes eu bod nhw'n gwybod maint llawn y difrod.
"Roedd ganddon ni ddigwyddiad yma yfory sydd wedi'i ganslo. Mae'n rhwystredig i ni gan ei fod yn golled incwm.
"Mae'n golled fawr o enillion ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn lle rydyn ni fel arfer yn gwneud llawer o arian cyn y gaeaf.
"Mae'n siom llwyr i'r holl staff, aelodau a gwirfoddolwyr.
"Mae gwerth cannoedd o bunnoedd o offer wedi'u difrodi y bydd angen eu newid, fel clybiau golff a throlïau. Mae'r rhai trydan yn costio cannoedd o bunnoedd."
Ychwanegodd Adrian nad ydy'r clwb wedi'i ddiogelu gan yswiriant gan ei fod wedi'i leoli ar orlifdir.
"Mae pobl wedi bod yn cynnig eu gwasanaethau yn barod sy'n help mawr i ni, ond rydyn ni mor siomedig."
'Roedd y dŵr fel tswnami'
Yn y cyfamser, mae Clwb Rygbi Faerdref, sydd hefyd yng Nghlydach, wedi eu gorfodi i ganslo eu gemau penwythnos ar ôl i'w meysydd gael eu boddi gan ddŵr.
Dywedodd llywydd y clwb, David Waghorn: "Daeth y dŵr yn sydyn ac allan o unman. Am tua 10:30 y bore roedd popeth yn iawn, ond erbyn amser cinio roedd y caeau, yr ardd gwrw, y gampfa a'r ystafelloedd newid i gyd dan ddŵr.
"Roedd y meysydd chwarae o dan tua chwe neu saith troedfedd o ddŵr. Roedd cynhwysydd storio dur yn arnofio.
"Dydw i ddim yn cofio dim byd fel hyn. Roedd y dŵr fel tswnami yn dod i mewn.
"Mae'n rhy gynnar i ddweud beth yw maint y difrod i'r caeau, dydyn ni ddim yn gwybod pryd fyddwn ni'n gallu chwarae eto ar hyn o bryd.
"Mae'n ddinistriol. Pan welwch chi'r gwaith caled sy'n cael ei wneud, a'r cyfan yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr, mae'n dorcalonnus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023