Clwb y Bont Pontypridd yn ailagor wedi difrod llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae clwb Cymraeg yn y cymoedd, gafodd ei ddifrodi'n sylweddol gan lifogydd yn 2020, yn ailagor ddydd Gwener.
Roedd Clwb y Bont ym Mhontypridd yn un o nifer o adeiladau ynghanol y dref ddioddefodd yn ystod Storm Dennis.
"Roedd 'na chwalfa lwyr yma," meddai cadeirydd y clwb, Guto Davies.
"Fe gymrodd hi fisoedd i ni ddod dros hynny a glanhau'r lle. Ond wedyn daeth pandemig Covid wrth gwrs, felly mae wedi bod yn un ergyd ar ôl y llall.
"Naethon ni agor yn rhannol, ond oedd 'na waith adeiladu ac adnewyddu oedd rhaid ei wneud, felly benderfynon ni dyna'r amser gorau i wneud e.
"Mae hwnna wedi'i gyflawni nawr, ac o'r diwedd 'yn ni'n barod i agor."
Fe agorodd y clwb yn 1983, ac yn ôl un sydd wedi ymwneud â'r lle ers y blynyddoedd cynnar, mae wedi bod yn rhan allweddol o hybu Cymreictod yng nghymoedd y de.
"40 mlynedd yn ôl, ddo'th 'na ryw frwdfrydedd mawr i'r ardal ynglŷn â hybu'r iaith," meddai Wil Morus Jones.
"Mi ddechreuodd Côr Godre'r Garth ychydig flynyddoedd cyn hynny, roedd yr ysgolion Cymraeg yn tyfu yn eitha' dramatig yr amser hynny, a chymaint o ddigwyddiadau a sefydliadau yn cael eu cychwyn yma.
"Mi fuon 'na sôn flynyddoedd cyn hynny am gael canolfan Gymraeg i Bontypridd, ac yn sydyn dyma un neu ddau o'r bobl allweddol ynglŷn â busnes ac yn y blaen yn ffeindio adeilad ynghanol Pontypridd. Hen efail oedd hi, a dyna brynu hwnnw, ac wrth gwrs mae'r lle wedi ffynnu byth er hynny."
Mae'r clwb yn agor fore Gwener yng nghwmni AS Pontypridd, Mick Antoniw, ac mae cyfres o ddigwyddiadau - yn Gymraeg a Saesneg - wedi'u trefnu dros yr wythnosau nesa'.
"Mae cymaint o bobl wedi bod yn gofyn pryd 'yn ni'n agor a dweud eu bod nhw mor falch byddwn ni'n ailagor," meddai Guto Davies.
"Mae'n ganolfan i'r gymuned - yn ganolfan a bar, tafarn - sy'n hyrwyddo'r iaith Gymraeg a Chymreictod.
"Ond mae 'na gymaint mwy na hynny - mae'n ganolfan i grwpiau lleol... côr cymunedol, cymdeithas hoyw Proud in Ponty, Cyfeillion y Ddaear, grwpiau ailgylchu."
Fe fydd Clwb y Bont hefyd yn rhan o gynllun Gŵyl Cymru sydd wedi'i threfnu gan y gymdeithas bêl-droed i gyd-fynd ag ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar.
Mae Mr Davies yn edrych yn hyderus at y dyfodol.
"Byddwn ni'n dathlu 40 mlynedd blwyddyn nesa', ac mae fel dechreuad newydd i'r clwb," meddai.
"Byddwn ni'n dal 'mlaen at rai o draddodiadau'r gorffennol a chadw'r pwyslais ar y gymuned, ond mae'n ddechrau newydd hefyd ac mae'n rhaid i ni, mewn ffordd, ail-ddiffinio'n hunain.
"Mae'n rhyddhad enfawr. Mae gwaith caled iawn wedi bod yn digwydd - yr wythnos hon yn benodol - gyda llwyth o wirfoddolwyr o'r gymuned leol yn dod mewn, ac felly gobeithio bydd pawb yn dod mewn i fwynhau a chanu o amgylch y piano... a bydd Clwb y Bont ar agor unwaith eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020