Mab, 2, yn sownd mewn ysbyty dramor wedi 'oedi cwmni yswiriant'
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen dwy oed sydd yn yr ysbyty ym Mhortiwgal yn methu a dychwelyd i Gymru er mwyn derbyn cymorth meddygol.
Mae gan Theo Jones o Faesteg feirws sy'n ymosod ar ei ymennydd, ond mae ei rieni'n honni bod oedi gan eu cwmni yswiriant olygu nad oes modd ei hedfan i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Nawr, maen nhw'n poeni y bydd ei gyflwr yn gwaethygu, ac na fydd Theo fyth yn teithio adref.
Mae cwmni yswiriant AXA Partners wedi cael cais am ymateb.
Aeth Theo i Ysbyty Faro wedi iddo fynd yn sâl ar wyliau'r teulu i Bortiwgal.
Yn wreiddiol fe ddywedwyd wrth rieni Theo mai ffliw stumog oedd ganddo.
Ond fe ddangosodd sgan MRI fod yna broblem â'i serebelwm - rhan o'r ymennydd.
Fe ddywedodd ei fam Sarah Jones: "Mae ein mab hyfryd, siaradus a bywiog wedi colli'r gallu i siarad, eistedd, cerdded."
Yn ôl Ms Jones, mae meddygon wedi dweud eu bod yn credu bod feirws yn ymosod ar ymennydd Theo.
Mae Ms Jones ym Mhortiwgal gyda'i gŵr a'i merch bum mis oed, ac mae ganddynt lety hyd at ddiwedd y mis.
Yn ôl Ms Jones, mae eu cwmni yswiriant, AXA Partners, wedi dweud bod achos Theo yn flaenoriaeth - ond dydyn nhw heb ddiweddaru'r teulu ers derbyn adroddiad meddygol ddydd Mawrth.
Ychwanegodd y bu'n rhaid iddi ofyn i yrrwr tacsi gyfieithu rhai dogfennau iddi ar ôl i AXA ddweud nad oedd cyfieithydd ar gael ganddynt.
Dydy AXA Partners ddim wedi cysylltu â thîm meddygol Theo ym Mhortiwgal na'r meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn ôl Ms Jones.
Mae hi'n honni bod y cwmni bellach wedi dweud eu bod am aros deuddydd i weld a fydd cyflwr Theo yn gwella.
Mae AXA Partners wedi derbyn cais am eu hymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022