Milwr wedi marw yn safle hyfforddi'r Fyddin ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Aelodau'r Gwarchodlu Cymreig yn hyfforddi ym Mhontsenni ddydd Mercher 20 MediFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r milwr yn ardal hyfforddi'r fyddin ym Mhontsenni

Mae milwr wedi marw ym Mhontsenni ym Mhowys, mae'r Fyddin wedi cadarnhau.

Mewn datganiad, dywedodd y fyddin bod y milwr wedi marw ar 20 Medi yn Ardal Hyfforddi Pontsenni.

Dywedodd y llefarydd bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r milwr.

Bydd ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth, meddai'r datganiad, gan ychwanegu na fydd sylw pellach ar hyn o bryd.

Mae'r ardal i'r gogledd o Bontsenni yn cael ei defnyddio fel man hyfforddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Pynciau cysylltiedig