Cwest Sgwd y Pannwr: Dyn wedi marw wrth geisio achub dau
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 27 oed o dan raeadr ym Mannau Brycheiniog wrth achub dau berson oedd wedi mynd i drafferthion, clywodd cwest.
Roedd Mohananeethan Muruganantharajah, oedd yn cael ei adnabod fel Mohan, ar wyliau gyda'i ddwy nith pan aeth i drafferthion mewn pwll yn Sgwd y Pannwr ger Ystradfellte, ym Mhowys.
Clywodd y cwest fod Mr Muruganantharajah, a gafodd ei eni yn Sri Lanka, wedi bod yn rheoli siop yn Abertawe.
Roedd wedi bod yn achub dau berson ifanc pan ddiflannodd dan y dŵr.
Doedd dim modd cyrraedd ei gorff, oedd wedi mynd yn sownd dan graig, tan ddau ddiwrnod wedi iddo ddiflannu.
Er bod patholegydd wedi cynnal archwiliad post-mortem doedd dim modd iddo roi achos y farwolaeth i'r gwrandawiad.
Mynegodd crwner ardal Canol De Cymru, Patricia Morgan, ei chydymdeimlad â'i deulu, cyn gohirio'r cwest er mwyn caniatáu ymchwiliad pellach.
Mae ei deulu wedi galw am well arwyddion yn yr ardal i dynnu sylw at beryglon posib.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023