Bachgen, 2, yn dal 'yn sownd' mewn ysbyty dramor
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen dwy oed sy'n cael triniaeth mewn ysbyty ym Mhortiwgal yn dweud ei bod hi'n mynd yn "gynyddol rwystredig" gydag "anhrefn llwyr" cwmni yswiriant AXA.
Yn ôl Sarah Jones, dywedodd asiant wrthi "nad oedd ganddi awdurdod" i gael y newyddion diweddaraf ynghylch pryd y bydd ei mab, Theo, yn cael ei hedfan yn ôl i Gymru heb i'r bachgen bach roi caniatâd llafar i siarad am ei achos.
Dydy Theo, o Faesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ddim yw wedi gallu siarad ers mynd yn sâl ar 13 Medi, pan ddechreuodd firws ymosod ar ei ymennydd.
Dywedodd cwmni yswiriant AXA Partners eu bod yn trefnu i Theo ddychwelyd i'r DU mewn ambiwlans awyr "cyn gynted ag sy'n bosib yn ymarferol".
"Dydyn ni ddim yn ddigon naïf i feddwl y gall fod yn sefyllfa 'nawr a gadewch i ni fynd'," meddai Sarah, wrth siarad o'r ysbyty yn Faro lle mae Theo'n cael ei drin ar hyn o bryd.
"Maen nhw wedi dweud y byddan nhw'n trefnu'r daith adref.
"Ddydd Gwener dywedwyd wrthyf y bydd hyn yn cael ei wneud o fewn 48 awr, ond fore Sadwrn, fe ddywedon nhw ei fod yn debygol o fod yn ddydd Llun.
"Erbyn prynhawn ddoe, roedd hyn wedi'i wthio'n ôl i ddydd Mercher a'r bore yma, nid oes ganddyn nhw unrhyw ddiweddariad i'w roi i mi o ran y trefniadau."
Dywedodd Sarah ei bod yn deall fod llawer o waith papur yn gorfod cael ei wneud ond bod y broses yn "anhrefn lwyr".
Dywedodd ei bod wedi bod mewn cysylltiad ag Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, sydd wedi derbyn trosglwyddiad i Theo.
Dywedodd meddygon ym Mhortiwgal y gallai deithio, ond byddai angen iddo fod mewn awyren feddygol.
"Nawr mae angen i ni ei gael e yno," meddai.
Dywedodd asiant Axa wrthi nos Sadwrn na fyddent yn gallu siarad â hi am achos ei mab ac y byddai angen iddo roi caniatâd llafar i siarad â hi.
"Es i drwy'r manylion diogelwch, ac yna dywedon nhw 'Does gennych chi ddim awdurdod i siarad ar y cyfrif hwn. Rydyn ni'n mynd i fod angen i'r claf alw i mewn a rhoi'r awdurdod i chi siarad ar ei ran'".
"A dywedais i 'Rydych chi eisiau i mi gael fy mhlentyn 2 oed, sydd wedi colli'r gallu i siarad, i alw a rhoi awdurdod i'w fam siarad?'"
Dywedodd fod yr asiant wedi darllen y nodiadau ac ymddiheuro a pharhau â'r sgwrs gyda hi.
"Mae'n shambolic," meddai.
'Dim hyder'
Dywedodd nad yw ei hyswirwyr wedi gallu dweud wrthi a ydyn nhw wedi sicrhau tîm pediatrig arbenigol ar gyfer yr awyren yn ôl i'r DU.
"Nid mater o gael awyren yn unig yw hyn. Ni all fynd ar awyren heb dîm pediatrig," meddai.
"Rydyn ni'n cael gwybod o hyd nad ydyn nhw ar gael yn hawdd, ond ni allaf weld sut mai ef fydd yr unig blentyn y bydd angen ei ddychwelyd erioed."
Dywedodd nad oedd ganddi "hyder o gwbl" y bydd hediad yn cael ei threfnu ar gyfer dydd Mercher a'i bod yn "rhagweld oedi pellach."
Mewn ymateb ddydd Sul dywedodd llefarydd ar ran AXA Partners: "Mae'n flaenoriaeth lwyr i'r teulu Jones ddychwelyd i'r DU cyn gynted ag sy'n bosib yn ymarferol.
"Rydym wedi bod mewn cysylltiad â phob un o'n darparwyr ac wedi adolygu'r holl opsiynau i sicrhau y gall [Theo] ddychwelyd mewn ambiwlans awyr gyda'r tîm pediatrig perthnasol a'r offer.
"Ein prif gonsyrn yw sicrhau bod Theo yn cael y gofal gorau pan fydd yn dychwelyd i'r DU.
"Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Mrs Jones drwy gydol yr amser i roi gwybod iddi am y camau rydyn ni'n eu cymryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023