Cynnal gwersi Cymraeg... draw yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Cyn heidio draw i Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, mae'n siŵr bod yna nifer o gefnogwyr Cymru wedi bod yn adolygu ychydig o'u Ffrangeg ers dyddiau'r ysgol.
Ond mae Elwyn Hughes yn teithio draw gyda iaith arall ar ei feddwl.
Cais i gynnig gwersi blasu
Ddechrau Hydref, bydd y brodor o Ruthun, sydd bellach yn byw ger Pontypridd, yn mynd draw i Nantes i ddysgu Cymraeg i drigolion y ddinas cyn gêm olaf Cymru yn rownd y grwpiau, yn erbyn Georgia.
"Mi ddaeth cais gan y Maison de l'Europe i'r Ganolfan Gymraeg Genedlaethol i ddarparu gwersi blasu yn ystod yr wythnos nesa' yn Nantes, ac roedd rhywun yn y ganolfan yn digwydd gwybod bod gen i ryw grap ar y Ffrangeg ac yn meddwl felly y byddwn i o bosib yn diwtor addas i wneud hyn."
Ffrangeg oedd pwnc Elwyn yn y brifysgol, ac mae hefyd wedi byw am gyfnodau byr yn Llydaw a Québec, ond ag yntau heb 'siarad Ffrangeg go iawn ers diwedd y 70au' bydd hwn yn sicr yn brofiad a hanner i'r tiwtor Cymraeg, eglurodd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Mae o'n rhywbeth gwahanol iawn i fi a dweud y gwir, dwi'n dysgu Cymraeg ers blynyddoedd. Ond dwi erioed wedi dysgu yn Ffrainc na thrwy gyfrwng y Ffrangeg o'r blaen, felly mae o am fod yn dipyn o her i mi."
Trafod sgôrs rygbi... drwy'r Gymraeg!
Pwy fydd yn derbyn y gwersi anarferol yma?
"Mae'r ganolfan yma yn cynnig gwersi blasu, ac maen nhw'n hysbysebu i drigolion yr ardal. Efo nhw dwi am wneud cwrs cyffredinol yn sôn am y Gymraeg ac ychydig o gyfarchion, a 'chydig o waith ar rifau'r Gymraeg, er mwyn trafod sgôrs rygbi!
"Ar y diwrnod cyn y gêm ei hun, mi fydda i'n gwneud sesiwn ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn y stadiwm, felly efo nhw, mi fydda i'n gwneud rhywbeth mwy penodol, croesawu'r cefnogwyr, i gyfeirio'r cefnogwyr i wahanol lefydd."
Felly, gefnogwyr Cymru, peidiwch â synnu (na beio'r gwin) os glywch chi 'Croeso i Stade de la Beaujoire' os ewch chi i gêm Cymru v Georgia ddydd Sadwrn 7 Hydref!