Llanelli: Gwrthod cais i adleoli canolfan ddibyniaeth
- Cyhoeddwyd
![Safle arfaethedig y ganolfan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/ACFF/production/_131078244_1380c677-a2fc-4a9f-b977-850c0e0a981a.jpg)
Roedd cais i sefydlu canolfan llesiant mewn hen swyddfeydd ger doc Llanelli
Mae cynllun dadleuol i adleoli gwasanaeth i drin dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn Llanelli wedi cael ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno cais i sefydlu 'Canolfan Llesiant' yn swyddfeydd Dragon 24, a fyddai'n cynnwys symud Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed (DDAS) o Stryd Vaughan yng nghanol y dref.
Roedd gwrthwynebiad wedi bod gydag un cynghorydd yn ei ddisgrifio fel "cynllun peryglus" oherwydd bod yr adeilad yn agos i'r doc ac Afon Lliedi.
Cafodd y cynllun ei wrthod gan y pwyllgor cynllunio o naw pleidlais i bedair.
Dywedodd y swyddog cynllunio, John Thomas, ei fod yn debygol y bydd y bwrdd iechyd yn apelio'r penderfyniad.
'Pryderon iechyd a diogelwch'
Roedd dros 200 o bobl wedi cyflwyno eu gwrthwynebiad i'r cais ar-lein, ac ar 11 Medi gwnaeth tua 70 o bobl gynnal protest dawel tu allan i'r ganolfan arfaethedig, dan arweiniad dau gynghorydd sir leol.
"Mae 'da ni bryderon mawr am iechyd a diogelwch," dywedodd y Cynghorydd Sean Rees ar y pryd.
"Mae yna alw am y gwasanaeth ond mae'r lleoliad yn allweddol. Dyma'r lleoliad gwaetha' posib."
![Protest nos Lun 11 Medi 2023](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5EDF/production/_131078242_922b2641-84fe-4743-9ac4-ed3f6bb13978.jpg)
Bu protest yn erbyn lleoliad y ganolfan llesiant newydd yn Llanelli
Dywedodd y Cynghorydd Louvain Roberts: "Ry'n ni yn deall bod angen gwasanaeth ond mae pobl leol yn bryderus. Fe fydd hyn yn symud y broblem o un ardal i un arall.
"Mae yna ddŵr yn agos iawn at y safle, ar y ddwy ochr. Mi allai hynny fod yn beryglus.
"Mae dŵr yn y doc ac yn yr afon [Lliedi]. Mi allen nhw syrthio i'r dŵr."
Mae'r Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed yn rhoi "gofal adferol" i bobl er mwyn "lleihau dibyniaeth" ar alcohol a chyffuriau ynghyd â chynnig cymorth i'w ffrindiau a theuluoedd.
Yn ôl y bwrdd iechyd fe fyddai'r ganolfan newydd yn "newid bywydau" yn Llanelli.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023