Gareth Hughes: O wleidyddiaeth i arlunio
- Cyhoeddwyd
Roedd Gareth Hughes yn wyneb a llais adnabyddus fel gohebydd gwleidyddol am flynyddoedd, yn sgwennu i bapurau newydd ac yn sylwebu ar ddigwyddiadau ar ran ITV Cymru.
Mae o bellach wedi ymddeol fel newyddiadurwr, ac mae o wedi ffeindio rhywbeth mae'n ei fwynhau ac yn teimlo'n angerddol amdano, sef arlunio.
Felly, pam arlunio? "Dwi'n meddwl bo' ti'n defnyddio rhan o'r ymennydd dwyt ti 'rioed 'di defnyddio o'r blaen. Rwyt ti'n gallu canolbwyntio ar rywbeth a meddwl sut wyt ti am greu y peth. Pan ti'n gwneud hynny does 'na ddim byd arall yn dod i dy feddwl di, ac mae'n ffordd dda i ddatblygu'r hyn maen nhw'n ei alw'n mindfulness."
Roedd Gareth, sy'n wreiddiol o Fangor, yn golofnydd gwleidyddol i gyhoeddiadau gan gynnwys Golwg a'r Cymro, pan gafodd y papur ei ailsefydlu.
"Es i nôl i ITV wedi i'r Cynulliad gael ei sefydlu, tua '98-'99, tan i mi ymddeol rhyw ddwy neu dair mlynedd yn ôl, adeg Covid."
Oedd o'n hawdd i Gareth roi'r gorau i'r byg gwleidyddol?
"Dim o gwbl," meddai Gareth. "Be' oedd yn help mawr wrth gwrs oedd Covid, gyda phawb yn gorfod gweithio o adref. Yn fy ffordd hen ffasiwn i o newyddiaduriaeth mae'n rhaid i chdi fynd allan a chyfarfod â phobl, siarad efo nhw a ffeindio allan be' maen nhw'n wneud ac ati.
"Felly, pan 'nath hynny stopio nes i feddwl bod o'n amser i roi'r gorau iddi. I fod yn onest dwi heb ddifaru hynny o gwbl, achos dwi'n mwynhau fy mywyd nawr yn arlunio, cerdded, a gwneud pethau dwi isio am y tro cyntaf ers blynyddoedd."
Wedi iddo ymddeol yn dilyn degawdau yn ymwneud â gwleidyddiaeth, dydi Gareth bellach ddim yn teimlo'r angen i gyfrannu ar y pwnc: "Dwi 'di troi i ffwrdd o'r cyfan. Dwi'n gwrthod galwadau gan y BBC neu bwy bynnag arall i sôn am wleidyddiaeth.
"Y rheswm am hynny ydy os wyt ti am wneud y swydd yn iawn, mae rhaid chdi fod â dy fys ar y pyls, ac ar ôl ymddeol dwyt ti ddim.
"Dwi'n darllen papurau newydd a'r Economist ac ati, ond dwi ddim yn cymryd llawer o ddiddordeb yn be' mae'r Senedd yn ei wneud bellach."
Dydi arlunio ddim yn rhywbeth mae Gareth wedi ei wneud ers blynyddoedd, ond yn hytrach mae'n sgil mae'n ei ddatblygu wrth ei wneud.
"Nes i 'rioed arlunio yn yr ysgol i ddweud gwir. Ond yn ddiweddar 'nes i feddwl bod rhaid i fi ffeindio rwbath i 'neud ar ôl ymddeol, ac 'nes i benderfynu ar arlunio, a dwi'n ei fwynhau o. Dwi ddim yn un am golff na chwarae gemau, er, dwi'n mwynhau edrych ar chwaraeon ar y teledu.
"Peth arall dwi'n 'neud ydi mynd â sketchbook efo fi pan dwi'n mynd allan. Mae'n well o lawer na thynnu llun. Os ti'n mynd ar dy wyliau a thynnu llun, yn aml iawn ti'n anghofio pam 'nes di gymryd o a ble mae o. Ond pan ti'n scetchio ti'n canolbwyntio a ti'n gweld pethau fysa chdi ddim yn sylwi arno fel arall. Dwi yn mwynhau gwneud hynny."
Does gan Gareth ddim un math o ddelwedd mae'n canolbwyntio arno; mae'n tynnu lluniau o gestyll, y môr, byd natur ac o bobl.
"Fedra i ddim dweud bod gen i ryw genre dwi'n hoffi, ond yn gwneud landscapes neu rwbath, mae mwy fel be' bynnag sy'n cyrraedd fy meddwl i - weithiau dwi'n neud pethau mewn charcol, lluniau o'r hen byllau glo ag ati."
Felly, oes 'na gynllun i arddangos y gwaith rhywle neu eu gwerthu nhw?
"Na, dwi jyst yn 'neud nhw i fi," meddai Gareth. "Mae 'na bobl wedi gofyn i fi werthu nhw, ond sgena i ddim diddordeb i ddweud gwir."
Yn dilyn gyrfa yng nghanol hynt a helynt gwleidyddiaeth, mae'n ymddangos bod Gareth wedi ffeindio gwir hapusrwydd gyda'i waith celf yn ei ymddeoliad.
Hefyd o ddiddordeb: