Bachgen, 2, adref ar ôl bod 'yn sownd' mewn ysbyty dramor
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen dwy oed o Faesteg - a gafodd driniaeth mewn ysbyty ym Mhortiwgal am firws oedd yn ymosod ar ei ymennydd - wedi dychwelyd i Gymru.
Dywedodd teulu Theo Jones fod oedi gyda'u cwmni yswiriant wedi golygu nad oedd eu mab wedi gallu dychwelyd yn gynt.
Roedd Theo ar wyliau gyda'i rieni a'i chwaer bum mis oed pan ddechreuodd deimlo'n sâl ac fe aeth i'r ysbyty yn Faro ar 13 Medi.
Fe wnaeth ei fam, Sarah Jones, ddisgrifio'r profiad o geisio trefnu hediad i Gymru trwy gwmni yswiriant AXA Partners fel "anhrefn lwyr".
Ar y pryd, dywedodd y cwmni ei bod hi'n flaenoriaeth i sicrhau bod y teulu'n cael mynd adref.
Fe laniodd Theo ym maes awyr Caerdydd ddydd Mercher a dywedodd ei fam, Sarah Jones, "mae e adref".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
- Cyhoeddwyd25 Medi 2023