Bachgen sâl i hedfan adref o Bortiwgal, medd ei fam
- Cyhoeddwyd
Bydd bachgen dyflwydd oed sydd yn yr ysbyty ym Mhortiwgal ar ôl cael ei daro'n wael tra ar wyliau yn teithio'n ôl i Gymru yr wythnos hon, yn ôl ei fam.
Aeth Theo, o Faesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn sâl ar 13 Medi, pan ddechreuodd firws ymosod ar ei ymennydd, ac mae disgwyl nawr iddi hedfan adref ddydd Mercher.
Mae ei fam, Sarah Jones, wedi disgrifio'r profiad o geisio trefnu'r hediad trwy'r cwmni yswiriant fel "anhrefn lwyr".
Dywed y cwmni, Axa Partners, bod hi'n flaenoriaeth i sicrhau bod y teulu'n cael mynd adref.
Yn ôl Ms Jones, fe fydd Theo'n cael ei gasglu fore Mercher a'i gludo i Gaerdydd mewn ambiwlans awyr gyda thîm pediatrig.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd: "Ry'n ni'n gweddïo na fydd y trefniadau yma'n newid..."
Mae hi hefyd "yn diolch i bawb yn ddiffuant am eu cefnogaeth ac am y gwaith enfawr tu ôl i'r llenni gan deulu, ffrindiau a hyd yn oed pobl hollol ddieithr".
Roedd meddygon wedi dweud wrth rieni Theo yn y lle cyntaf mai ffliw stumog oedd arno, ond fe amlygodd sgan bod yna broblem gyda rhan o'i ymennydd.
Yn ôl Ms Jones fe ddywedodd un o swyddogion Axa wrthi nad oedd modd rhoi'r manylion diweddaraf iddi o ran trefnu trafnidiaeth heb i'r claf eu ffonio a rhoi caniatâd iddi siarad ar ei ran.
Bu'n rhaid i Ms Jones egluro nad oedd Theo wedi gallu siarad ers cael ei daro'n wael.
'Sicrhau'r gofal gorau i Theo'
Roedd yna sôn ddydd Gwener y byddai'n hedfan adref "o fewn 48 awr", ond mae'r hediad nawr wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mercher yn hytrach.
Mae Ms Jones wedi bod mewn cysylltiad ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sy'n dweud eu bod mewn sefyllfa i dderbyn Theo.
Cyn datganiad diweddaraf Ms Jones, roedd llefarydd ar ran cwmni Axa wedi dweud mai "ein blaenoriaeth lwyr yw i'r teulu Jones ddychwelyd i'r DU gynted ag y mae'n ymarferol bosib".
Ychwanegodd mai'r "prif gonsyrn yw sicrhau bod Theo yn cael y gofal gorau pan fydd yn dychwelyd i'r DU" a'u bod wedi bod "mewn cysylltiad cyson" gyda'i fam i roi gwybod am y camau maen nhw'n eu cymryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023