CPD Casnewydd: Cefnogwyr o blaid cais Jenkins i brynu'r clwb

  • Cyhoeddwyd
Huw JenkinsFfynhonnell y llun, Ppauk/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Huw Jenkins oedd cadeirydd CPD Abertawe o fis Ionawr 2002 tan Chwefror 2019

Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi pleidleisio o blaid cais cyn-gadeirydd Abertawe i brynu'r clwb.

Fe wnaeth dros 75% o aelodau cymdeithas gefnogwyr y clwb gymeradwyo cais Huw Jenkins mewn cyfarfod yn Rodney Parade nos Iau.

Ers 2015, cymdeithas cefnogwyr yr Alltudion sydd yn berchen ar y clwb ac yn ei redeg.

Mae Jenkins yn cynnig £500,000 er mwyn berchen ar 52% o'r clwb.

Fe wnaeth 455 allan o'r 464 o gefnogwyr a bleidleisiodd gefnogi cais Jenkins.

Bydd 27% o'r clwb a dau le ar y bwrdd yn parhau dan reolaeth y cefnogwyr.

Bydd angen i'r EFL gymeradwyo'r cais, proses all gymryd deufis.

Jenkins oedd cadeirydd CPD Abertawe o fis Ionawr 2002 hyd at fis Ebrill 2019. Yn y cyfnod hwnnw, fe ennillodd yr Elych bedwar dyrchafiad.