Dim cynllun am gorff cyfryngau Cymreig newydd

  • Cyhoeddwyd
Stiwdio radioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

San Steffan sydd â'r grymoedd dros ddarlledu yng Nghymru

Fydd y cynnig am gorff cyhoeddus i wthio am welliannau i gyfryngau Cymru ddim yn mynd ymhellach, mae'r BBC wedi cael gwybod.

Roedd sefydlu awdurdod darlledu yn un o brif argymhellion adroddiad gan banel o arbenigwyr dros yr haf.

Dywedodd y panel y bydden nhw yn gosod sylfaen i ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru o San Steffan.

Fe gafodd yr adroddiad ei gomisiynu fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru.

Roedd Plaid Cymru'n dweud y byddai'r awdurdod yn "cryfhau democratiaeth Gymreig", ond galwyd y cynllun yn "siop siarad genedlaetholgar" gan y Ceidwadwyr Cymreig a oedd hefyd yn beirniadu'r gost o £704,000 y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ceisio dod o hyd i £900m o arbedion yn eu cyllideb.

Fe rybuddiodd y panel o arbenigwyr nad oedd "llawer o feddwl" ynghylch sut y bydd dyfodol darlledu yng Nghymru yn edrych.

Fe ddywedon bod ffigyrau gwylio sianeli teledu wedi gostwng 37% ers 2010 ac yn 2021 fe ostyngodd yr amser roedd pobl yn ei dreulio'n gwylio rhaglenni teledu gan ddarlledwyr o Gymru 12.6% o'i gymharu â 2020.

Roedd oed y bobl oedd yn gwylio BBC Cymru ac ITV Cymru ar deledu yn gwyro mwy tuag at y categori dros 65.

Fe ddywedodd yr adroddiad fod y 10 mlynedd nesaf yn "allweddol" i ddyfodol darlledu a chyfathrebu yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddarlledwyr Cymreig, gan gynnwys S4C.

Mewn ymateb i BBC Cymru, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes newid wedi bod i'w safle nhw ar y mater.

Dywedodd llefarydd: "Ry'n ni'n ystyried canfyddiadau adroddiad y panel arbenigol."

Dywedodd llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard, ei fod yn croesawu'r "newyddion na fydd siop siarad genedlaetholgar Llafur a Phlaid bellach yn tynnu sylw pobl oddi ar flaenoriaethau Cymru, o ystyried nad yw'r maes hwn wedi'i ddatganoli i'r llywodraeth Lafur".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae'r adroddiad annibynnol a gynhyrchwyd gan banel o arbenigwyr uchel eu parch yn glir - heb weithredu, bydd Cymru a chynulleidfaoedd Cymreig yn cael eu gadael ar ôl ac ni fydd y diffyg democrataidd yn cael sylw.

"O dan y system bresennol, mae gwariant ar gynnwys Saesneg yng Nghymru yn llai na hanner yr hyn yw yn yr Alban, ac mae nifer yr oriau o newyddion a drama a gynhyrchir i Gymru yn lawer llai.

"Os ydym am fod yn deg ac uchelgeisiol dros Gymru, mae angen Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu arnom ar gyfer fframwaith cyfryngau sy'n rhoi cyfran deg i Gymru, ac sy'n atebol i'r rhai y mae'n eu gwasanaethu.

"Nid yw'r strwythurau presennol yn gallu cyflawni hyn."

'Anodd gennym gredu'

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddatganiad "ar fyrder" gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am faterion darlledu yng Nghymru, Dawn Bowden, gan ddadlau bod "angen tryloywder gan y Llywodraeth ar fater mor bwysig".

Dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith: "Mae cydnabyddiaeth bod y gyfundrefn ddarlledu bresennol yn hollol annigonol i ddibenion Cymru ers datganoli, ac roedd adroddiad y panel yn cynnig gweledigaeth gadarnhaol a thrywydd pendant ar gyfer dyfodol darlledu a'r cyfryngau yn ein gwlad.

"Mae'n anodd gennym gredu felly y byddai'r Llywodraeth am anwybyddu prif argymhelliad y panel, a gafodd ei groesawu pan gyhoeddwyd yr adroddiad."