Llofnodi cytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Daw’r Cytundeb Cydweithio i rym heddiw (1 Rhagfyr 2021)Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daw’r Cytundeb Cydweithio i rym ddydd Mercher

Mae'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi cael ei lofnodi gan eu harweinyddion, gan nodi dechrau ffurfiol y bartneriaeth dair blynedd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn "edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ar y rhaglen uchelgeisiol hon".

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Adam Price, "wrth i Gymru wynebu heriau niferus yn sgil Brexit, yr argyfwng hinsawdd a'r pandemig, nid yw cydweithio erioed wedi bod mor hanfodol i'n democratiaeth".

Ond dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Ceidwadwr Simon Hart, "nid wyf yn credu y bydd pobl yn ei oddef - edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd i'r Democratiaid Rhyddfrydol [yn San Steffan] yn 2010".

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Mae'n gytundeb pwrpasol i gyflawni dros Gymru ond mae hefyd yn adlewyrchu sut mae gwleidyddiaeth Cymru yn gweithio - drwy ganfod tir cyffredin a rhannu syniadau da."

Dywedodd Mr Price: "Bydd y polisïau radical a phellgyrhaeddol sydd yn y cytundeb cydweithio - boed yn brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd neu'n ofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed - yn newid bywydau miloedd o deuluoedd yng Nghymru er gwell."

Ond yn ôl Simon Hart, mae'r cytundeb yn galluogi y Ceidwadwyr Cymreig i gynnig "dewis arall clir iawn" i bobl Cymru.

Mae'r cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, yn cynnwys cynlluniau i newid treth y cyngor a gwasanaethau cymdeithasol, ehangu gofal plant am ddim a mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi.

Mae cynlluniau hefyd i greu cwmnïau cyhoeddus ar gyfer ynni ac adeiladu, mesurau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a newidiadau i faint a system etholiadol y Senedd - gan gynnwys addewid o gael yr un faint o ddynion a menywod.

'Aberthu statws'

Yn y cyfamser, gallai'r cytundeb danseilio gwaith Senedd Cymru wrth ddwyn gweinidogion i gyfrif, mae Torïaid yr wrthblaid ym Mae Caerdydd yn rhybuddio.

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar y byddai'r llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn gweithio "llaw yn llaw mewn trefniant sydd bron yn gopi carbon o hwnnw yn Yr Alban rhwng y cenedlaetholwyr a'r Gwyrddion," gan gyfeirio at fargen sydd wedi arwain at weinidogion y Blaid Werdd yn llywodraeth yr SNP.

"Fel yn Holyrood, mae gan hyn oblygiadau enfawr i gywirdeb busnes yn Senedd Cymru, o ystyried bod Plaid Cymru wedi dewis aberthu eu statws o ran craffu ar Lywodraeth Cymru."

Galwodd y blaid ar y Llywydd Elin Jones i "weithredu ar unwaith i ail-archwilio statws Plaid fel gwrthblaid, lleihau eu hamser penodedig mewn cwestiynau a dadleuon, fel yn achos y Gwyrddion yn Holyrood, a dileu cyfrifoldeb Plaid am gadeirio'r pwyllgor cyllid, o ystyried ei rôl graffu hanfodol ar gyllideb y llywodraeth."

"Ni allwn fforddio tanseilio cywirdeb a gwrthrychedd busnes y Senedd yn angheuol o ystyried ei rôl hanfodol wrth graffu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif," ychwanegodd Mr Millar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llywydd wedi gofyn i'r prif weinidog egluro nifer, cylch gwaith a chyfrifoldebau aelodau dynodedig Plaid Cymru

Mewn datganiad dywedodd y Llywydd Elin Jones ei bod wedi ceisio cyngor cyfreithiol dros drefniadau'r cytundeb "sy'n newydd ac yn codi cwestiynau ynglŷn â busnes y Senedd".

Dywedodd yn ei barn hi nid oes gan Blaid Cymru rôl weithredol, ond dywedodd fod y manylion yn "codi materion o ran gweithredu busnes y Senedd a'n confensiynau cyfredol" yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng ASau y llywodraeth a gwrthbleidiau.

"Yn benodol, mae angen ystyried yn ofalus cyflwyno rôl newydd aelodau dynodedig," meddai, gan gyfeirio at aelodau o Blaid Cymru a fydd ar y cyd yn cytuno ar faterion o dan y cytundeb gyda gweinidogion Cymru.

"Rwyf wedi gofyn i'r prif weinidog egluro nifer, cylch gwaith a chyfrifoldebau aelodau dynodedig a chyhoeddi enwau a phortffolios yr aelodau hynny," ychwanegodd, gan ddweud y bydd yn ymgynghori â phwyllgor busnes y Senedd ac yn gwneud datganiad pellach.