Heddlu 'wedi colli cyfle' cyn i ddyn ladd ei hun

  • Cyhoeddwyd
Leighton DickensFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leighton Dickens yn gymeriad adnabyddus ym myd cerddoriaeth Caerdydd, medd ei deulu

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid.

Mae rheithgor mewn cwest wedi dod i'r casgliad bod "cyfle wedi'i golli ar ran yr heddlu" pan ganiataodd swyddogion o Heddlu De Cymru i ddyn oedd mewn argyfwng iechyd meddwl adael ysbyty cyn asesiad gan staff meddygol.

Fe wnaeth Leighton Dickens, 39, ladd ei hun yn ei fflat yng Nghaerdydd oriau ar ôl gadael yr ysbyty ym mis Hydref 2020.

Daeth y rheithgor yn Llys y Crwner Pontypridd i gasgliad unfrydol ar ôl gwrandawiad cwest barodd wyth diwrnod.

Yn y casgliad ysgrifenedig dywedodd y rheithgor eu bod ar ddeall bod hwn "yn gyfle a gollwyd ar ran yr heddlu i beidio â chadw Leighton Dickens yn yr ysbyty nes ei fod wedi cael ei asesu gan staff iechyd meddwl".

Clywodd y cwest fod cyflwr Mr Dickens wedi gwaethygu fwyfwy nos Fawrth 13 Hydref 2020 tra yng nghartref ei bartner Rhiannon Williams.

Fe benderfynodd fynd â Mr Dickens adref ond yn ystod y daith fe ddechreuodd gydio yn y llyw a brêc llaw'r car. Fe wnaeth hefyd niweidio ei hun, meddai.

'Plîs helpa fi, Rhiannon'

Fe wnaeth recordiad sain o ddigwyddiadau yn y car lle gellir ei chlywed yn pledio ar Mr Dickens i beidio â gafael yn y llyw a'r brêc llaw. Dywedodd wrth y cwest ei bod wedi gwneud hyn fel y gallai Mr Dickens glywed tystiolaeth o ddifrifoldeb ei gyfnodau iechyd meddwl.

Yn y recordiad mae Mr Dickens yn dweud: "Plîs helpa fi Rhiannon. Rwy'n erfyn arnat, gwranda arna i, plîs."

Mae Ms Williams yn ateb: "Mae gen i dy gefn di. Rwy'n mynd â ti i'r ysbyty." Yna mae Mr Dickens yn dweud wrthi'n fanwl sut mae'n bwriadu dod â'i fywyd i ben.

Dywed Ms Williams wrtho ei bod hi'n gwrando arno ac eisiau ei helpu, gan ddweud: "Rydw i gyda ti bob cam o'r ffordd."

Ffoniodd 999 ac wrth iddi yrru yng Nghaerdydd gwelodd fan heddlu a'i stopio. Dywedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd a dywedodd fod angen iddo fynd i'r ysbyty.

Cytunodd y swyddogion i fynd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru, gan ei gludo mewn uned ddiogel yng nghefn eu fan. Dywedon nhw ei fod yn ymddangos yn feddw ​​a'i fod yn siarad yn aneglur.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Dangosodd prawf gwaed diweddarach ei fod ychydig dros yr uchafswm alcohol cyfreithiol i yrru. Roedd yna hefyd elfennau o gocên yn ei waed.

Roedd ganddo bresgripsiwn ar gyfer y cyffur gwrth-iselder Sertraline ond clywodd y crwner nad oedd Mr Dickens wedi ei gymryd ers "rhai misoedd" cyn ei farwolaeth.

Dywedodd Rhiannon Williams fod yr heddlu wedi tynnu'r cortyn oddi ar gŵn llofft Leighton Dickens cyn ei yrru i'r ysbyty.

Ar ôl cael ei berswadio o'r fan pan gyrhaeddon nhw'r ysbyty clywodd llys y crwner ei fod mewn tymer ddrwg.

Ymgynghorodd y swyddogion â'u bos ar y radio, Sarjant Thomas Harrison. Dywedodd yntau wrth y cwest mai prin oedd ei gof o'r digwyddiadau dair blynedd yn ôl, ond roedd ar ddeall bod y swyddogion yn mynd ag unigolyn meddw i'r ysbyty.

Ond yn ei thystiolaeth, dywedodd un o'r ddau swyddog ei bod yn credu iddi ddweud wrth Sarjant Harrison am hunan-niwed Mr Dickens.

Dywedodd Sarjant Harrison ei fod yn ildio i'r swyddogion ac mai eu penderfyniad nhw oedd sut i symud ymlaen.

Clywodd y gwrandawiad fod y ddau swyddog - y Sarjant Brittany Brewer a'r Cwnstabl Sarah Musgrove - yn teimlo bod eu presenoldeb yn "gwaethygu pethau" a'u bod yn credu eu bod yn ei adael gydag oedolyn cyfrifol, sef Rhiannon Williams.

Nid oeddent yn meddwl bod Leighton Dickens yn risg iddo'i hun nac i eraill a phenderfynwyd peidio â'i gadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

'Ga'i adael?'

Adeg marwolaeth Mr Dickens roedd gan un o'r swyddogion ddwy flynedd o wasanaeth, ac roedd yr ail wedi cwblhau ei hyfforddiant dri mis ynghynt.

Gadawodd Mr Dickens yr adran ddamweiniau brys tua 06:05 heb gael ei asesu, yn gwisgo gŵn llofft ac yn droednoeth.

Ffilmiodd y sgwrs, gan ofyn i'r swyddogion sawl tro: "A ga'i adael fa'ma, plîs?" Atebodd un: "Rwyf eisoes wedi dweud 'ie'."

Aeth Ms Williams â Mr Dickens i'w fflat yn Stryd Neville yng Nghaerdydd ond roedd hi'n dal yn bryderus iawn am ei les. Galwodd yr heddlu eto a mynychodd yr un ddwy swyddog benywaidd a welsant yn yr ysbyty.

Dywedodd Ms Williams fod y swyddogion wedi dweud wrthi nad oedden nhw wedi eu hyfforddi i orfodi mynediad i'w fflat. Galwyd swyddogion Ymateb Arfog, a phan aethant i mewn i'r fflat daethpwyd o hyd i gorff Leighton Dickens.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Mr Dickens - ei ferch Jenna-Eve Cooper a'i fam Maria Evans - eu bod yn croesawu'r canfyddiadau

Mewn datganiad ar ôl y gwrandawiad, teulu Mr Dickens eu bod "yn ddiolchgar i'r rheithgor am eu sylw gofalus i'r materion trasig a thrist" a bod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn "anodd".

"Roedd Leighton yn gymeriad enfawr ac yn adnabyddus ym myd cerddoriaeth Caerdydd. Roedd yn garedig, yn hael ac yn annwyl.

"Daeth y rheithgor i'r casgliad bod Leighton wedi marw trwy [ladd ei hun] mewn amgylchiadau lle nad oedd modd canfod ei fwriad.

"Daeth y rheithgor i'r casgliad hefyd ei fod yn gyfle a gollwyd ar ran Heddlu De Cymru i beidio â chadw Leighton yn yr ysbyty hyd nes ei fod wedi cael ei asesu gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol.

"Mae'r teulu'n croesawu canfyddiadau'r rheithgor. Roedd y rheithgor yn cydnabod methiannau Heddlu De Cymru i gadw Leighton yn y ddalfa ac mae'r dystiolaeth rydyn ni wedi'i chlywed dros y pythefnos diwethaf wedi codi pryderon sylweddol iawn am systemau'r heddlu.

"Rydyn ni'n credu'n gryf y dylai Leighton fod wedi cael ei gadw yn y ddalfa er mwyn ei ddiogelu. Roedd yn amlwg iawn o'r dystiolaeth yr ydym wedi ei chlywed dros y pythefnos diwethaf fod Leighton yn dioddef argyfwng iechyd meddwl.

"Rydym yn gobeithio nad oedd marwolaeth Leighton yn ofer ac y bydd y newidiadau o fewn systemau'r heddlu yn atal pobl rhag colli bywyd yn y dyfodol.

"Rydym yn galw am fwy o hyfforddiant a chefnogaeth i gael eu neilltuo ar gyfer hyfforddiant iechyd meddwl i swyddogion ar draws yr heddlu."

Fe ddywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru Danny Richards bod y llu yn meddwl am deulu Mr Dickens yn dilyn ei farwolaeth.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw achos ymddygiad yn erbyn ddim un swyddog wedi ei ganfod gan adran safonau broffesiynol y llu, na chwaith gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

"Rydyn ni'n nodi canlyniad y cwest ac yn cydnabod casgliad y rheithgor fod cyfle wedi'i golli i gadw Mr Dickens yn yr ysbyty tan iddo gael asesiad iechyd meddwl.

"Mae pwerau'r heddlu i ddal unigolyn yn gyfreithlon ar gyfer asesiad iechyd meddwl yn gyfyngedig."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.