Reidiwr e-sgwter wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Cwmbrân

  • Cyhoeddwyd
Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dyn o Gasnewydd

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi i reidiwr e-sgwter farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn oriau man bore Sadwrn ar yr A4042 rhwng Casnewydd a Chwmbrân.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 00:45.

Roedd y digwyddiad yn ymwneud ag e-sgwter a char Vauxhall Corsa.

Bu farw'r dyn 26 oed o Gasnewydd oedd ar yr e-sgwter yn y fan a'r lle. Cafodd y llanc 18 oed o Bontypŵl oedd yn gyrru'r car fân anafiadau.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad gydag unrhyw yrwyr oedd yn teithio ar yr A4042 rhwng 00:15 a 00:45 fore Sadwrn i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig