Y Bencampwriaeth: Caerdydd 2-0 Rotherham

  • Cyhoeddwyd
caerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd yn y chweched safle yn y bencampwriaeth ar ôl i Kion Etete a Perry Ng sicrhau'r triphwynt yn erbyn Rotherham.

Er bod nad oedd perfformiad Caerdydd yn llifo cystal â'r wythnosau diwethaf fe ddangosodd y tîm cartref fwy o uchelgais na'u gwrthwynebwyr.

Roedd y tîm o Sir De Efrog yn dal yn y frwydr ar ôl y gôl agoriadol, ond fe dorrodd eu hysbryd pan sgoriodd Ng i sicrhau'r ail i'r Adar Gleision.

Gyda Aaron Ramsey wedi ei anafu roedd Caerdydd yn edrych yn brin o ysbrydoliaeth ar brydiau ond roedd Rotherham i weld yn hapus i geisio eistedd yn ôl a cheisio sicrhau gêm ddi-sgôr.

Ond fe flinodd yr ymwelwyr sydd â record amddiffynnol gyda'r gwaethaf yn y Bencampwriaeth.

Llwydodd Joe Ralls i fwydo Grant ar yr asgell chwith ac fe lwyddodd e i groesi'n gywir i Etete. Dangosodd y blaenwr ei gryfder trwy daranu peniad heibio i Johansson.

Fe ddeffrodd Rotherham ac roedd yna bryder ymhlith cefnogwyr Caerdydd y gallen nhw gipio'r pwynt wedi'r cwbl.

Ond gydag ychydig funudau ar ôl i'w chwarae fe gafodd peniad yr eilydd Ike Ugbo ei arbed gan Johansson cyn glanio wrth draed Etete. Cafodd ei ergyd e ei chlirio ond daeth y bêl yn ôl i Ng. Fe darodd e gefn y rhwyd o 15 llath. Mae yna 11 o chwaraewyr gwahanol nawr wedi sgorio i'r Adar Gleision y tymor hwn.

Bydd Erol Bulut y rheolwr yn falch bod y tîm wedi ymateb ar ôl colli yng Nghwpan Carabao yn erbyn Blackburn nos Fercher.

Mae Caerdydd yn chweched yn y Bencampwriaeth.