Adran Dau: Salford City 2-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
casFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhediad Casnewydd heb ennill yn ymestyn i chwe gêm ar ôl colli yn Salford.

Daeth y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf.

Aeth y tîm cartref ar y blaen pan beniodd Matthew Lund y bêl i'r rhwyd o groesiad Declan John.

Daeth Casnewydd yn gyfartal ar ôl ergyd gan Bryn Morris ar ôl casglu pas gan James Waite, ond fe ddaeth y gôl fuddugol cyn y chwiban am hanner amser.

Fe ergydiodd Kelly N'Mai i gyfeiriad y gôl cyn taro yn erbyn yr amddiffynnwr Declan Drysdale ar ei ffordd i'r rhwyd.

Fe roddodd yr ymwelwyr y bêl yn rhwyd yr ymwelwyr yn ddiweddarach ond roedd y llumanwr o'r farn bod Will Evans yn camsefyll.

Doedd y rheolwr Graham Coughlan ddim yn hapus gyda'r penderfyniad hwnnw.

Mae Casnewydd yn 17eg yn y tabl gyda Salford yn codi i'r 20fed safle.

Gobaith yr Alltudion nawr ydy y bydd eu darpar berchennog newydd Huw Jenkins yn dod â buddsoddiad newydd er mwyn codi'r clwb o waelodion Adran Dau.