Adran Dau: Wrecsam 3-3 Crewe
- Cyhoeddwyd
Mae hi bron yn ystrydeb bellach ond fiw i chi adael y Cae Ras tan y chwiban olaf.
Crewe ddechreuodd gryfaf gyda Mickey Demetriou, gynt o Gasnewydd, yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen gyda pheniad o gic gornel.
Gwaethygodd pnawn y tîm cartref ar ôl 36 munud pan gafodd Ryan Barnett ei hel o'r maes am dacl anghyfreithlon.
Ond cyn hanner amser roedd yna le i ddathlu gyda Paul Mullin yn sgorio ei gôl gyntaf y tymor yma ar ôl ei anaf ar y daith i America.
Yn ddwfn yn yr amser gafodd ei ganiatáu am anafiadau fe ildiodd James McClean gic o'r smotyn. Fe lwyddodd Chris Long i rwydo heibio Okonkwo yn gôl Wrecsam.
Ar ôl i'r chwarae ailddechrau fe ddaeth y dyn hwnnw i'r adwy unwaith eto i'r tîm cartref - Paul Mullin yn sgorio eto yn fuan yn yr ail hanner.
Er bod y 10 dyn yn brwydro yn galed am y gôl fuddugol, fe roddodd Shilow Tracey Crewe yn ôl ar y blaen.
Ond tra bod rhai cefnogwyr yn ymlwybro yn ben isel tuag at y maes parcio, fe beniodd yr eilydd Steven Fletcher ei gôl gyntaf i'r Dreigiau.
Pwynt gwerthfawr i 10 dyn Wrecsam ond maen nhw yn llithro i'r nawfed safle yn Adran Dau.