'Llawenydd' wrth ailddechrau Papur Sain Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Fe fydd papur sain cynta'r Deyrnas Unedig yn ailddechrau am y tro cyntaf ers pandemig Covid.
Cafodd Papur Sain Ceredigion ei sefydlu yn 1970, gan arwain at greu rhagor o bapurau sain ar draws y DU.
Mae'r gwasanaeth yn darparu newyddion i bobl ddall a rhannol ddall, gyda gwirfoddolwyr yn edrych drwy bapurau newydd ac yn golygu erthyglau, cyn eu lleisio.
Mae Gordon Harries o Giliau Aeron wedi bod yn ddall ers 26 mlynedd, ond doedd pwysigrwydd y papur sain ddim yn amlwg iddo tan iddo gael y copi cyntaf ers Covid.
"Mae e'n beth mawr i feddwl bod ni 'di colli mas ar yr holl newyddion dros y ddwy neu dair blynedd ddiwetha'," meddai.
"O'n i'n clywed lot o bobl yng nghlwb deillion Aberystwyth yn ymladd i gael e'n ôl, ac o'n i ddim cweit yn deall pa mor bwysig o'dd e, pam o'n nhw'n teimlo mor awyddus i gael e'n ôl.
"Ond ar ôl cael y cofbin cyntaf 'na, dwi wedi sylwi bod e'n bwysig iawn."
Ychwanegodd: "Ma' rhai pobl â nam golwg gyda nhw yn yr ardal yma, yn Sir Ceredigion, sydd yn waeth na fi.
"Ma' gwraig i ga'l 'da fi sydd yn gallu darllen, ond dim ond rhannau o'r papur mae'n darllen i fi. Ma' lot o bethau glywes i ar y cofbin ddoe o'dd hi ddim wedi pigo lan ei hunan, so o'n i'n dweud wrthi hi."
Diflannodd y gwasanaeth yn ystod y pandemig, ond am y tro cyntaf ers 2020, mae'r papur sain yn cael ei recordio eto.
Mae'r tîm yn cwrdd yng nghanolfan HAHAV yn Aberystwyth. Mae'r erthyglau wedi eu torri yn barod i'w darllen ac mae'r criw recordio yn barod i leisio'r newyddion.
I Lorely Lansley mae'n braf bod yn ôl, ac mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn agos i'w chalon.
"O'n ni'n falch achos o'n i'n ffrind i'r clwb deillion yn Aberystwyth," meddai.
"Ac rwy'n gwybod ma' nhw'n edrych mlaen i gael e achos mae e'n cadw nhw mewn cwmni, chi gwybod, a ma' nhw'n gwybod beth sy'n mynd mlaen yn y sir.
"O'dd mab-yng-nghyfraith fi yn ddall gyda diabetes ac oedd e wedi marw pan oedd e yn 38 so o'n i mo'yn neud e gofio am fe."
'Hollol newydd i mi'
Mae 'na wynebau newydd hefyd, ac mae Emyr Hughes yn troi ei law at leisio'r newyddion am y tro cyntaf.
"Cyn belled â bod hwn yn y cwestiwn, ma' hwn yn hollol newydd i fi," meddai.
"Hair-raising, a does dim llawer o wallt yma chwaith! Ond ma' popeth wedi mynd yn iawn.
"Y secret yw bod darnau addas yn cael eu defnyddio, nid dim ond o un papur lleol. Beth 'dan ni'n gobeithio gwneud ydy pigo o'r holl bapurau bro sy'n teithio o waelod Sir Aberteifi i Machynlleth."
"Ma' 'na ddau neu dri o bobl dwi'n nabod sy'n ddall ac rwy'n gwybod bod nhw'n cael help mawr trwy'r system yma. Chi gwybod fel ma'r Sais yn dweud, keep in touch.
"Ma'r cadeirydd wedi dod ato fi a gofyn os ydw i yn fodlon ymaelodi a dwi wedi gwneud, a dwi wedi cytuno i fod yn ysgrifennydd i'r papur yma."
Mae'r tîm yn recordio rhyw awr o newyddion o erthyglau wedi eu torri o bapurau newydd lleol cyn i'r papur sain gael ei gopïo ar gofbinnau, yn barod i'w dosbarthu i wrandawyr ledled Ceredigion - a hynny yn rhad ac am ddim drwy'r Post Brenhinol.
Y dyn sydd wedi dod â'r cyfan at ei gilydd yw cadeirydd Papur Sain Ceredigion, Syd Smith.
Wrth dreulio'r noson gyda'r tîm yn recordio am y tro cyntaf ers y pandemig, mae'n glir na fyddai'r papur sain yma heddiw heb ei waith e. Mae ei angerdd yn glir, ac mae e'n esbonio pam.
"Bydde llawer ohonyn nhw, neu bob un ohonyn nhw'n ddim yn gwybod pan oeddwn i'n brentis nôl yn y 1950au roeddwn i'n atgyweirio radios ceir fel rhan o fy swydd.
"Fe wnes i gysylltu radio car gyda batri ac fe chwythodd e lan yn fy wyneb.
"Ges i fy rhoi yn yr ysbyty llygaid yn Henffordd am dridiau gyda phadiau dros fy llygaid. Felly dwi'n gwybod yn union beth mae bod yn ddall yn ei olygu.
"Yr oedran yna roeddwn i wedi fy arswydo ac wedi dychryn."
Ychwanegodd: "Mae heno'n dod â llawenydd i fi, a dwi'n eitha' emosiynol am y peth, yn bennaf oherwydd bod yr holl ymdrech wedi cael ymateb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2020