Concrit RAAC: Neuadd Dewi Sant ar gau am gyfnod hirach
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i un o neuaddau cyhoeddus amlycaf Caerdydd aros ar gau am gyfnod hirach tra bod archwiliadau pellach yn cael eu cynnal ar goncrit yn yr adeilad.
Bu'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro ar 7 Medi er mwyn archwilio paneli concrit RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete) sydd wedi eu defnyddio yn y nenfwd.
Dywed Cyngor Caerdydd nad oes tystiolaeth i awgrymu bod cyflwr y concrit - sy'n llawn swigod aer ac yn gallu dymchwel yn ddirybudd wrth heneiddio - yn anniogel.
Mae disgwyl y bydd yn cymryd tair wythnos i gwblhau'r archwiliadau ac "i gymryd y camau nesaf angenrheidiol".
Ers cau'r neuadd mae peirianwyr strwythurol sy'n arbenigwyr RAAC wedi bod yn ôl ar y safle i wneud profion newydd ar baneli RAAC yn yr adeilad.
Roedd 18 mis o archwiliadau cyson - cyn i'r pryderon diweddaraf godi ynghylch concrit RAAC ar draws y DU - heb amlygu arwyddion o ddirywiad ac yn ôl y cyngor "mae hyn yn wir o hyd".
Ond yn dilyn trafodaethau gydag yswirwyr ac arbenigwyr, fe benderfynodd y cyngor "ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd".
Ychwanegodd: "Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus."
Ceisio ailagor 'cyn gynted â phosibl'
Mae disgwyl y bydd hynny'n cymryd tair wythnos, sy'n golygu bod rhaid gohirio mwy o berfformiadau, ar ben y rhai a gafodd eu gohirio ers 7 Medi.
Ychwanegodd y cyngor: "Byddwn yn ceisio ailagor y Neuadd cyn gynted â phosibl, yn dibynnu ar unrhyw gamau y gallai fod eu hangen neu na fydd eu hangen."
Mae'r cyngor wedi ymddiheuro eto i gwsmeriaid, gan gydnabod bod y sefyllfa'n "achosi llawer o anghyfleustra a siom" ond mae'n dweud bod rhaid blaenoriaethu "diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad".
Byddan nhw'n cysylltu â hyrwyddwyr a chyflogwyr i drafod y posibilrwydd o aildrefnu perfformiadau, neu "adleoli cynyrchiadau os yw'n ymarferol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023