Concrit RAAC: Neuadd Dewi Sant Caerdydd i gau dros dro

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y cyngor bod dal dim rheswm i amau bod y concrit RAAC yn Neuadd Dewi Sant yn dirywio

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y bydd un o neuaddau cyhoeddus y brifddinas yn cau dros dro i'r cyhoedd tra bod paneli sydd wedi'u gwneud o fath o goncrit sy'n gallu dirywio'n ddirybudd yn cael eu harchwilio.

Roedd y cyngor eisoes wedi cadarnhau bod RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete) wedi ei ddefnyddio yn nenfwd Neuadd Dewi Sant, ond doedd dim lle i gredu ei fod yn anniogel.

Daw'r penderfyniad i gau'r adeilad am gyfnod yn dilyn trafodaethau gyda pheirianwyr strwythurol annibynnol ac yswirwyr y cyngor sir.

Mae'r cyngor wedi ymddiheuro i gwsmeriaid am ganslo digwyddiadau yno ar fyr rybudd, ac yn gobeithio ailagor y neuadd "mor fuan â phosib" ond mae disgwyl i'r archwiliadau gymryd "o leiaf pedair wythnos".

Dywed y cyngor eu bod yn gwybod bod RAAC yn yr adeilad a'r angen i'w reoli ers 2021, a'u bod wedi dilyn canllawiau'r llywodraeth i sicrhau ei fod yn ddiogel.

O ganlyniad mae arbenigwyr annibynnol wedi archwilio'r concrit yn "rheolaidd" yn y 18 mis diwethaf, fel rhan o'r strategaeth iechyd a diogelwch yr adeilad.

Yn ôl y cyngor, doedd dim problemau wedi codi yn y cyfnod hwnnw ynghylch cyflwr yr RAAC yn yr adeilad.

Ychwanegodd: "Doedd dim tystiolaeth o ddirywiad - a dyna'r achos o hyd."

Ffynhonnell y llun, Neuadd Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cyngor yn cysylltu ag artistiaid a hyrwyddwyr o ran aildrefnu perfformiadau

Ond wrth i'r trafodaethau barhau wedi'r newid diweddar yng nghyngor y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) mewn cysylltiad â choncrit RAAC, ac "ar sail cyngor heddiw gan yr arbenigwyr, rydym yn credu ei fod yn ochelgar ac yn gyfrifol i gynnal arolygon mewnwthiol i roi sicrwydd i ni ein hunain a'r cyhoedd ynghylch diogelwch y Neuadd".

"Bydd hyn yn cynnwys drilio i'r paneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol a phenderfynu os oes angen gwaith pellach i sicrhau diogelwch."

'Anghyfleustra a siom'

Mae'r cyngor yn rhagweld y bydd yn cymryd o leiaf pedair wythnos i'r arbenigwyr RAAC gynnal profion newydd ar y paneli.

"Byddwn ni'n edrych ar ailagor y Neuadd gynted â phosib, yn ddibynnol ar ba bynnag gamau y bydd, neu na fydd, eu hangen," dywedodd y cyngor yn eu datganiad.

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn achosi cryn anghyfleustra a siom, a hoffwn ymddiheuro i'n holl gwsmeriaid.

"Rydym yn gobeithio y byddech yn deall bod diogelwch cynulleidfaoedd, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y neuadd yn hollbwysig, a bod gofyn i'r Cyngor weithredu mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf yr HSE a chyngor arbenigol."

Bydd y cyngor yn cysylltu ag artistiaid a hyrwyddwyr o ran aildrefnu perfformiadau, a gyda chwsmeriaid sydd wedi archebu tocynnau i drafod opsiynau posib "unwaith rydym wedi siarad gyda hyrwyddwr pob sioe sydd wedi eu heffeithio".

Pynciau cysylltiedig