Bechgyn, 8 a 9, yn yr ysbyty gydag 'anafiadau tân gwyllt'
- Cyhoeddwyd
Mae dau fachgen ifanc yn cael triniaeth ysbyty am anafiadau sy'n "gysylltiedig â ffrwydrad tân gwyllt", meddai'r heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel argyfwng meddygol yn Hengoed, Sir Caerffili am tua 14:15 ddydd Sul.
Yn ôl Heddlu Gwent, mae'r bechgyn, sy'n wyth a naw oed, yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau maent yn credu sy'n "gysylltiedig â ffrwydrad tân gwyllt".
Cafodd un bachgen ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Bryste, ac fe gafodd y llall ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r heddlu, i gysylltu â nhw.