Diwedd National Theatre Wales 'mewn chwe mis' heb grant
- Cyhoeddwyd
Mae National Theatre Wales (NTW) yn ofni y bydd yn dod i ben yn dilyn penderfyniad i dorri ei gyllideb.
Fe wnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) gyhoeddi'n ddiweddar na fyddai'r cwmni theatr yn derbyn arian grant eleni.
Mae NTW bellach wedi ysgrifennu at y Cyngor Celfyddydau'n dweud y "bydd Cymru'n colli National Theatre Wales ymhen chwe mis".
Maen nhw wedi galw am gyllid "dros dro" tra bod adolygiad o theatr Saesneg ei hiaith yn cael ei gynnal.
Mae CCC wedi cydnabod y bydd NTW yn apelio'r penderfyniad, ac yn dweud y bydd yn fodlon "trafod materion sydd angen eglurder ac opsiynau i'r dyfodol".
'Proses eithriadol o gystadleuol'
Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Cyngor y Celfyddydau bron i £30m o grantiau amodol i 81 o sefydliadau.
Dywed CCC eu bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" wedi "proses eithriadol o gystadleuol", a bod modd i sefydliadau aflwyddiannus geisio am gymorth cronfeydd eraill.
Dywedodd Cadeirydd CCC, Dafydd Rhys, nad oedd cais National Theatre Wales "wedi argyhoeddi".
Cychwynnodd National Theatre Wales yn 2008 ac mae wedi derbyn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau ers hynny.
Dywed y cwmni theatr ei fod wedi cynhyrchu "gwerth £11m o fuddsoddiad ychwanegol i theatr yng Nghymru" ac wedi cyrraedd mwy na 330,000 o aelodau cynulleidfa fyw a mwy nag 8 miliwn ar-lein neu ar deledu.
Honnodd NTW eu bod wedi cyflogi 645 o bobl y llynedd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn llythyr at CCC, dywedodd NTW y byddai'n apelio'n erbyn y penderfyniad gan alw am edrych ar "sefyllfa interim".
Maen nhw'n rhybuddio, os bydd y penderfyniad ariannu yn mynd rhagddi yna "bydd Cymru'n colli National Theatre Wales ymhen 6 mis".
"O'i golli, ni fydd modd llenwi'r bwlch yn rhwydd nac yn fforddiadwy."
Ychwanegodd NTW: "Rydyn ni'n gofyn am sgwrs adeiladol gyda chi a'ch cydweithwyr cyn gynted ag y bod modd i edrych ar y posibilrwydd o greu sefyllfa lle gall National Theatre Wales weithredu ar sail interim tra bo'r adolygiad yn cael ei gynnal."
'Fandaliaeth ddiwylliannol'
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd cyn-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Dai Smith ei fod yn ofni bod y penderfyniad o ganlyniad i "fiwrocratiaeth a thicio blychau".
Ychwanegodd y byddai'n anodd yn ddiwylliannol i gyfiawnhau colli'r cwmni.
"Os ydyn nhw mewn gwirionedd yn cael gwared ar National Theatre Wales yna dyna beth yw fandaliaeth ddiwylliannol.
"Mae'n benderfyniad twp, ond yn anad dim, mae'n dinistrio un o bileri diwylliannol bywyd Cymreig, gadewch i ni wneud yn well."
Mewn datganiad, mae CCC wedi cydnabod llythyr NTW a'r ffaith y byddant yn apelio'r penderfyniad.
Dywedodd llefarydd bod CCC yn fodlon "trafod materion sydd angen eglurder ac opsiynau i'r dyfodol", ond nad oedd y corff am wneud sylw cyhoeddus ar y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr adolygiad buddsoddi yn fater i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023