Galw am help i sicrhau dyfodol Theatr Torch

  • Cyhoeddwyd
Theatr y Torch
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryder am ddyfodol Theatr Torch yn Aberdaugleddau

Mae yna alw am help y gymuned leol i helpu sicrhau dyfodol Theatr Torch yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Ers dechrau'r pandemig mae'r elusen sy'n rhedeg y theatr wedi wynebu cyfnod heriol.

Gyda llai o bobl yn dychwelyd i'r theatr, a 93% o doriad mewn cyllid gan Gyngor Sir Penfro, mae'r cyfarwyddwr gweithredol Benjamin Lloyd nawr yn dweud bod yna fwlch ariannol o £250,000 i'w lenwi.

"Wrth ddod allan o'r pandemig ry'n ni wedi gweld yr economi yn newid, ac o fewn y celfyddydau," meddai.

Sinema yw rhan fawr o'n busnes ni, a gyda sinema yn unig, ry'n ni'n edrych ar ostyngiad o tua £100,000 mewn gwerthiant tocynnau, heb sôn am y gwariant sy'n dod 'da hynny."

£150,000 yn llai gan y cyngor

£10,000 o nawdd y mae'r theatr bellach yn ei gael gan y cyngor sir - £150,000 yn is o'i gymharu ag ychydig flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro ei fod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" yn sgil yr "hinsawdd economaidd hynod heriol".

Mae Theatr Torch hefyd yn cael cefnogaeth ariannol o £454,260 gan Gyngor y Celfyddydau a £7,000 gan Gyngor Tref Aberdaugleddau.

Ond y theatr ei hun sy'n gyfrifol am weddill yr arian sydd ei angen i gynnal gweithgareddau yno.

Disgrifiad o’r llun,

"Does dim gwadu bod y sefyllfa yn ddifrifol," meddai Benjamin Lloyd

Yn ddiweddarach y mis hwn mae rheolwyr y theatr yn disgwyl clywed canlyniad "adolygiad buddsoddi" gan Gyngor y Celfyddydau.

Dywedodd Benjamin Lloyd bod yr elusen yn ceisio lleddfu ar eu pryderon ariannol trwy ddechrau ymgyrch "Caru the Torch".

"Does dim gwadu bod y sefyllfa yn ddifrifol, ond ry'n ni yn benderfynol o ymateb. Mae gennym ni rhywbeth anhygoel o arbennig yn y Torch i'w warchod," meddai.

"Ry'n ni yn galw ar ein cymuned, ein busnesau lleol i'n helpu ni i ddiogelu dyfodol y Torch. Allwn ni ddim caniatáu i'r sefyllfa ddirywio ymhellach."

Dros 100,000 o bobl

Mae Theatr Torch yn darparu 2,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau bob blwyddyn, gyda dros 100,000 o bobl yn dod trwy'r drysau.

"Mae'r Torch yn hynod o bwysig. Hwn yw'r unig sefydliad yng ngorllewin Cymru sy'n cael ei ariannu yn gyson gan Gyngor y Celfyddydau. Ry'n ni'n cyrraedd nifer fawr o gymunedau," meddai Chelsey Gilard, cyfarwyddwr artistig newydd y theatr.

Disgrifiad o’r llun,

"Hwn yw'r unig sefydliad yng ngorllewin Cymru sy'n cael ei ariannu yn gyson gan Gyngor y Celfyddydau," meddai Chelsey Gilard

Ychwanegodd Mr Lloyd ei fod yn cydnabod bod yna bwysau i godi pris tocynnau oherwydd yr argyfwng costau byw, ond mynnodd bod y Torch ymhlith y theatrau a'r canolfannau celfyddydol mwyaf fforddiadwy yng Nghymru.

"Mae gennym ni rhywbeth unigryw yn y Torch, i frwydro amdano ac i'w ddiogelu, a dyna ry'n ni am ei wneud.

"Os y'ch chi'n gwerthfawrogi'r celfyddydau ac adloniant yna ry'ch chi'n gwerthfawrogi'r Torch. Ry'n ni'n gofyn i chi ein cefnogi."

Pynciau cysylltiedig