Adran Dau: Casnewydd 2-1 Colchester

  • Cyhoeddwyd
Omar BogleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Omar Bogle yn dathlu ar ôl sgorio ail gôl Casnewydd

Llwyddodd Casnewydd ennill buddugoliaeth yn erbyn Colchester nos Fawrth diolch i gôl yn yr ail hanner gan Omar Bogle.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyntaf gyda Samson Tovide yn gosod y bêl yn y rhwyd, ond bu Casnewydd yn gyflym i ymateb gyda Will Evans yn dod a'r sgôr yn hafal cyn hanner amser.

Yn yr ail hanner daeth gôl Casnewydd oddi ar gliriad esgeulus gan Colchester, gyda'r Bogle yn cael y cyffyrddiad olaf wrth i'r bêl fynd i'r rhwyd.

Ni lwyddodd Colchester ail gafael ar eu mantais, gydag Arthur Read yn derbyn cerdyn coch yn yr ail hanner am gicio Kiban Rai.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Casnewydd yn symud i 14eg yn Adran Dau, tra bod Colchester yn cwympo i 21ain.