Carcharu llanc wnaeth fygwth torri braich Aled Jones

  • Cyhoeddwyd
Aled JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aled Jones yn cerdded gyda'i fab yn Llundain pan ddigwyddodd y lladrad

Mae llanc 16 oed wnaeth fygwth torri braich y canwr o Gymru Aled Jones gyda machete wrth iddo ddwyn ei oriawr wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod dan glo.

Clywodd llys fod y canwr 52 oed yn cerdded gyda'i fab ar Chiswick High Road yng ngorllewin Llundain, tua 17:40 ar 7 Gorffennaf, pan ymosododd y bachgen arno.

Roedd y bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oedran, eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o ladrata, a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Cafodd ei ddedfrydu i 24 mis yn y ddalfa a gorchymyn hyfforddi.

Gwerth £17,000

Dywedodd yr erlynydd wrth y llys yn gynharach fod bachgen wedi dod at Mr Jones a thynnu machete o'i drowsus, gan wneud bygythiadau, yn cynnwys torri ei fraich i ffwrdd er mwyn cael yr oriawr Rolex gwerth £17,000.

"Fe roddodd Aled Jones yr oriawr iddo yn syth ac fe redodd y diffynnydd i ffwrdd," meddai.

Cafodd y llanc ei arestio yn ei gartref yng ngorllewin Llundain, ar ôl i luniau CCTV gael eu casglu yn yr ardal.

Daethpwyd o hyd i'r machete yn y tŷ.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Andrew Sweet fod y drosedd yn un "ddifrifol iawn, iawn".

Pynciau cysylltiedig